
Erlyniad cerddoriaeth uchel yn dangos ymrwymiad i fynd i’r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol
Loud music prosecution shows commitment to tackle anti-social behaviour
Mae erlyniad menyw a anwybyddodd orchymyn i roi’r gorau i chwarae cerddoriaeth uchel yn dangos pa mor benderfynol yw Cyngor Sir Penfro o atal ymddygiad gwrthgymdeithasol, meddai Aelod Cabinet.
Fe wnaeth y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai a Gwasanaethau Rheoleiddiol, groesawu erlyniad llwyddiannus Gemma Hughes o Howarth Close, Aberdaugleddau.
Roedd y Cyngor wedi cyflwyno hysbysiad lleihau sŵn i Hughes am chwarae cerddoriaeth yn uchel yn fynych, yn hwyr y nos yn aml, gan darfu ar drigolion eraill yn y bloc fflatiau.
Dylai Hughes fod wedi ymddangos gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mercher, 30 Awst i’w herlyn, a hithau’n wynebu dau gyhuddiad o dorri hysbysiad lleihau sŵn a methu cydymffurfio â’r hysbysiad, ond ni fynychodd hi.
Cytunodd Ynadon i fwrw ymlaen yn ei habsenoldeb a chlywont dystiolaeth gan Gyngor Sir Penfro a swyddogion Heddlu Dyfed-Powys.
Dywedwyd wrth yr Ynadon fod cwynion niferus wedi’u gwneud am lefel y sŵn yn eiddo Hughes, gan gynnwys ar ôl cyflwyno’r hysbysiad lleihau sŵn.
Cafodd yr Ynadon Hughes, 27 oed, yn euog o’r cyhuddiadau o dan a.80(4) Deddf Diogelu’r Amgylchedd 1990.
Cafodd Hughes ddirwy o £660 ar gyfer pob trosedd a gorchmynnwyd hi i dalu gordal o £132.
Dyfarnwyd £2,527.75 mewn costau i Gyngor Sir Penfro.
Meddai’r Cynghorydd Bateman: “Mae’r erlyniad llwyddiannus hwn a lefel y dirwyon a’r costau a ddyfarnwyd yn dangos ein bod ni a’r llysoedd yn cymryd problem sŵn o ddifrif, heb os.
“Mae chwarae cerddoriaeth yn uchel ac yn hwyr y nos yn gallu cael effaith fawr ar ansawdd bywyd cymdogion. Mae’r Cyngor wedi ymhél â’r diffynnydd ac wedi cyflwyno hysbysiad lleihau sŵn.
“Dylai anwybyddu hysbysiad a pharhau i achosi niwsans sŵn gan arwain at erlyniad fod yn rhybudd i bobl eraill.
“Hoffwn amlygu a chanmol y gwaith effeithiol mewn partneriaeth a gyflawnodd y canlyniad hwn.
“Rydym yn gweithio’n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys a’r Timau Plismona yn y Gymdogaeth i alluogi cyfnewid gwybodaeth a thystiolaeth am faterion niwsans, fel sŵn a, hefyd, tensiynau yn y gymuned.
“Mae’r gweithio hwn mewn partneriaeth yn caniatáu i ni fynd i’r afael â phryderon cymunedol a gwella bywyd pobl.”