Mae angen eich mewnbwn ar Gam 2 o Rwydwaith Teithio Llesol Sir Benfro
Phase 2 of Pembrokeshire’s Active Travel Network needs your input
Mae trigolion yn cael eu gwahodd i helpu i lunio dyfodol llwybrau cerdded, teithio ar olwynion a beicio ledled Sir Benfro fel rhan o gam nesaf adolygiad Map Rhwydwaith Teithio Llesol y cyngor sir.
Mae Cyngor Sir Penfro yn diweddaru ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol, sy'n nodi llwybrau presennol a llwybrau'r dyfodol ar gyfer teithio llesol. O dan Ddeddf Teithio Llesol (Cymru) 2013, rhaid i awdurdodau lleol adolygu a gwella cyfleoedd ar gyfer cerdded, teithio ar olwynion a beicio yn rheolaidd.
Yn dilyn ymgynghoriad statudol 12 wythnos a ddaeth i ben ym mis Ebrill 2026, mae'r cyngor bellach yn cynnal ail gam ymgynghori i roi cyfle i'r cyhoedd gadarnhau bod eu barn wedi cael ei hystyried yn briodol.
Mae'r cyngor yn ceisio adborth ynghylch a yw’r canlynol wedi’u bodloni:
- Mae llwybrau newydd posibl priodol wedi'u nodi.
- Mae llwybrau presennol sydd angen eu gwella wedi'u nodi'n gywir.
- Mae llwybrau sydd eisoes yn bodloni'r safonau y cytunwyd arnynt wedi cael eu hasesu'n gywir.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnwys y lleoliadau teithio llesol a ddynodwyd gan Lywodraeth Cymru, sef Abergwaun / Wdig, Penfro, Doc Penfro, Dinbych-y-pysgod, Saundersfoot (Llanusyllt), Hwlffordd, Neyland, Aberdaugleddau, Johnston, Arberth a Llandudoch.
Gall trigolion weld y llwybrau arfaethedig a chyflwyno sylwadau drwy'r map rhyngweithiol ar-lein yn: https://datamap.llyw.cymru/survey/Pembrokeshire-AT-survey-two/
Bydd yr ymgynghoriad yn agor ar 3 Awst ac yn cau ar 28 Medi.
Mae copïau papur ar gael ar gais drwy gysylltu â'r Tîm Strategaeth Trafnidiaeth ar 01437 775182 neu drwy e-bost yn Transportstrategy@pembrokeshire.gov.uk. Gellir darparu fformatau amgen hefyd ar gais.
Sylwch fod yr ymgynghoriad yn ymwneud â llwybrau cerdded, teithio ar olwynion a beicio o fewn y Map Rhwydwaith Teithio Llesol yn unig ac nid yw'n cwmpasu Hawliau Tramwy Cyhoeddus na materion priffyrdd eraill.
Am ragor o wybodaeth am Deithio Llesol yn Sir Benfro, ewch i: https://www.sir-benfro.gov.uk/diogelwch-ar-y-ffyrdd/teithio-llesol-yn-sir-benfro