English icon English
id pleidleisiwr

Mae angen ID ffotograffig ar drigolion Sir Benfro i bleidleisio mewn etholiadau ym mis Mai

Pembrokeshire residents need photo ID to vote at elections in May

Bydd angen i drigolion yn Sir Benfro ddangos ID ffotograffig i bleidleisio mewn etholiadau lleol ar 2 Mai. Mae trigolion yn cael eu hannog i wneud yn siŵr eu bod yn barod i bleidleisio trwy wirio bod ganddynt fath o ID a dderbynnir.

Mae mathau o ID a dderbynnir yn cynnwys pasbort neu drwydded yrru a gyhoeddwyd gan y DU, yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE) neu’r Gymanwlad; a rhai pasys teithio rhatach megis pas bws person hŷn neu gerdyn Oyster 60+. Bydd pleidleiswyr yn gallu defnyddio ID nad yw’n gyfredol os oes modd eu hadnabod o’u ffotograff o hyd.

Bydd unrhyw un nad oes ganddo un o'r mathau o ID a dderbynnir yn gallu gwneud cais am ID am ddim ar-lein drwy cymraeg.voter-authority-certificate.service.gov.uk neu drwy lenwi ffurflen bapur.

Mae’r rhestr lawn o ID a dderbynnir ar gael ar wefan y Comisiwn Etholiadol, ynghyd â rhagor o wybodaeth am y gofyniad newydd a manylion am sut i wneud cais am yr ID am ddim, drwy electoralcommission.org.uk/id-pleidleisiwr.

Dywedodd Jackie Killeen, Cyfarwyddwr y Weinyddiaeth Etholiadol a Chanllawiau:

“Bydd angen i unrhyw un sy’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio ddangos ID ffotograffig cyn y gellir rhoi ei bapur pleidleisio iddo. Mae’n bwysig bod pawb yn deall pa fathau o ID y gallant eu defnyddio, a sut i wneud cais am ID am ddim os oes ei angen arnynt. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y gofyniad newydd a beth i’w ddisgwyl yn yr orsaf bleidleisio, ar wefan y Comisiwn Etholiadol.”

Rhaid i unrhyw un sydd eisiau dweud ei ddweud yn yr etholiadau fis Mai eleni hefyd gofrestru i bleidleisio. Dim ond pum munud y mae'n ei gymryd i gofrestru ar-lein drwy www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dylai pleidleiswyr sy'n dymuno gwneud cais i'w cyngor am ID am ddim sicrhau yn gyntaf eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

Cyflwynwyd y gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio gan Ddeddf Etholiadau Llywodraeth y DU a daeth i rym am y tro cyntaf ym mis Mai 2023.