Mae Canolfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone yn dathlu Gwobr y Brenin am Fenter mewn seremoni gyflwyno swyddogol
Bluestone National Park Resort celebrates King’s Award for Enterprise at official presentation ceremony
Mae Canolfan Wyliau Parc Cenedlaethol Bluestone wedi derbyn Gwobr y Brenin am Fenter mewn Datblygu Cynaliadwy.
Y wobr hon yw anrhydedd busnes uchaf y DU ac mae’n cydnabod Bluestone fel y ganolfan wyliau gyntaf yn y wlad i gael ei dathlu am ei gwaith ym maes datblygu cynaliadwy.
Cyflwynwyd y wobr gan Arglwydd Raglaw Dyfed Ei Fawrhydi, Miss Sara Edwards, yn Serendome (man chwarae antur pob tywydd) Bluestone, lle cyfarfu â’r sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol William McNamara, y Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Marten Lewis, gweithwyr Bluestone, a gwesteion gwadd.
Croesawyd yr Arglwydd Raglaw i’r digwyddiad gan Gadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Maureen Bowen.
Roedd ei hymweliad hefyd yn gyfle i ddysgu mwy am ymrwymiad hirdymor Bluestone i gynaliadwyedd a’i ddull o ofalu am yr amgylchedd, y cymunedau lleol a’r rhanbarth ehangach.
Mae Bluestone wedi derbyn y wobr ar ôl adolygiad manwl o’i waith amgylcheddol a chymunedol. Roedd hyn yn cynnwys cynnydd mawr o ran lleihau allyriadau carbon, cyflawni gweithrediad di-danwydd ffosil ar yr holl ynni a brynir (y parc gwyliau cyntaf yn y DU i wneud hynny), cofleidio arferion economi gylchol, cefnogi’r gymuned leol, a diogelu a gwella natur a bywyd gwyllt lleol. Cefnogir yr ymdrechion hyn gan ddiwylliant mewnol cryf lle mae cynaliadwyedd yn gyfrifoldeb a rennir ar draws y sefydliad cyfan a lle mae 30% o’r busnes yn eiddo i’r staff.
Dywedodd yr Arglwydd Raglaw: “Roedd yn bleser cyflwyno Gwobr y Brenin am Fenter i Bluestone a gweld y gwaith gwych maen nhw’n ei wneud. Roedd angerdd y tîm dros gynaliadwyedd a’u hymrwymiad i ddiogelu’r ardal leol yn Sir Benfro yn amlwg yn ystod fy ymweliad. Mae gwaith Bluestone yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol, a dylent fod yn hynod falch o bopeth maen nhw wedi’i gyflawni.”
Gyda theithio cynaliadwy yn gynyddol bwysig i ymwelwyr a chyrchfannau, mae’r diwydiant twristiaeth dan bwysau cynyddol i amddiffyn yr amgylcheddau a’r cymunedau y mae’n dibynnu arnynt.
Fel Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd, mae Marten Lewis wedi chwarae rhan ganolog wrth lunio a chyflawni strategaeth cynaliadwyedd Bluestone, gan arwain “glasbrint gweithredol” y ganolfan, sy’n canolbwyntio ar ddiogelu’r amgylchedd, cefnogi’r economi leol, a phartneriaethau cymunedol.
Mae hefyd wedi cynrychioli Bluestone yn genedlaethol, gan gael ei longyfarch yn bersonol gan y Brenin Siarl III yn fwyaf diweddar mewn derbyniad brenhinol i dderbynwyr Gwobr y Brenin.
Wrth fyfyrio ar y wobr, ychwanegodd y Cyfarwyddwr Cynaliadwyedd Marten Lewis: “Nid yw cynaliadwyedd yn ychwanegiad yn Bluestone. Dyma sylfaen ein gweithrediadau. Mae’r wobr hon yn cydnabod blynyddoedd o waith gan bobl angerddol ar draws y ganolfan, pob un wedi ymrwymo i greu effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd, ein gwesteion a’n cymunedau. Mae’n anrhydedd i bob un ohonom, ac yn gymhelliant pwerus i barhau i wthio ymlaen.”
Ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithredol William McNamara: “Wrth i deithio a thwristiaeth barhau i esblygu, mae gan gwmnïau fel Bluestone gyfrifoldeb cynyddol i weithredu mewn ffyrdd sy’n amddiffyn y lleoedd y mae pobl yn dod i’w mwynhau.
“Mae derbyn y wobr hon yn foment gyffrous iawn i bawb yma. Mae ein hymrwymiad i ddiogelu natur, cefnogi cymunedau lleol a hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy wedi bod wrth wraidd ein gwaith ers blynyddoedd lawer. Mae cydnabod yr ymdrechion hyn ar y lefel genedlaethol uchaf yn rhywbeth y mae ein tîm cyfan yn hynod falch ohono.”
Arferai rhaglen Gwobr y Brenin am Fenter gael ei hadnabod fel Gwobrau’r Frenhines cyn cael ei hailenwi i adlewyrchu ymrwymiad parhaus Ei Fawrhydi’r Brenin i gydnabod busnesau rhagorol yn y DU. Mae’n parhau i fod yn wobr fusnes uchaf y wlad ac mae wedi anrhydeddu mwy nag 8,000 o gwmnïau ers ei dechrau yn 1965.