
Mae cwmpas band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigadid yn parhau i gynyddu yn Sir Benfro
Gigabit-capable broadband coverage continues to rise in Pembrokeshire
Mae'r broses o gyflwyno band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid yn Sir Benfro yn mynd rhagddi'n gyflym, gyda chefnogaeth Rhaglen Seilwaith Digidol Bargen Ddinesig Bae Abertawe. Mae'r ffigurau diweddaraf yn tynnu sylw at dwf sylweddol y cwmpas band eang hwn flwyddyn ar ôl blwyddyn, sy'n tanlinellu llwyddiant y prosiect a'r ymrwymiad i wella cysylltedd digidol yn y rhanbarth.
Mae'r gyfradd adeiladu wedi bod yn drawiadol, gyda'r cwmpas yn ddim ond 7.6% ar ddiwedd mis Mawrth 2021. Wrth symud ymlaen i ddiwedd mis Mawrth 2024, roedd gan 48.2% o breswylwyr a busnesau Sir Benfro fynediad i fand eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd gigadid a nawr mae'r ffigur hwn wedi codi eto i 65.1% (Dyma'r ffigur cywir hyd at ddiwedd mis Mawrth 2025: Ffynhonnell ThinkBroadband).
Mae'r gwaith o gyflwyno hyn wedi cynnwys prosiectau llwyddiannus a ariannwyd gan Gynllun Talebau Band Eang Gigadid Llywodraeth y DU.
Yn Sir Benfro mae'r rhaglen wedi cael ei hatgyfnerthu trwy gael dau Hyrwyddwr Digidol sydd wedi meithrin perthnasoedd gwaith cryf o fewn Cyngor Sir Penfro. Mae'r partneriaethau hyn yn sicrhau bod unrhyw waith peirianneg sifil yn cael ei drefnu o amgylch yr economi dwristiaeth brysur a phrosiectau seilwaith eraill, gan leihau aflonyddwch.
Mae cryn waith ar y cyd hefyd wedi'i wneud, gan gyfrannu at fod yna ystod o gyflenwyr wrthi'n gweithio yn Sir Benfro. Ymhlith y rhain y mae Openreach, Ogi, Voneus, a'r cwmni lleol Dragon WiFi. Mae eu hymdrechion wedi bod yn allweddol wrth ddarparu rhyngrwyd cyflym i fwy o gartrefi a busnesau ar draws y sir.
Er mwyn ehangu'r cwmpas ymhellach, mae Openreach yn cyflwyno contract gwerth £289 miliwn ar draws rhannau o Dde Cymru fel rhan o Brosiect Gigadid llywodraeth y DU, a fydd yn cysylltu tua 131,000 o gartrefi a busnesau yn rhai o leoliadau mwyaf anghysbell Prydain â band eang cyflym a dibynadwy.
Mae'r manteision o gael gwell cysylltedd yn amrywiol, gan gynnwys gwell mynediad i wasanaethau ar-lein, gwell cyfleoedd ar gyfer gweithio ac addysg o bell, a hwb i'r economi leol.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, "Mae'r cynnydd rydyn ni'n ei weld yn Sir Benfro yn dyst i'r gwaith caled a'r cydweithio rhwng y cyngor, ein partneriaid, a'r gymuned leol. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau bod pawb yn Sir Benfro yn gallu elwa o fynediad cyflym a dibynadwy i'r rhyngrwyd."
Dywedodd y Cynghorydd Rob Stewart, Arweinydd Cyngor Abertawe a Chadeirydd Cyd-bwyllgor Bargen Ddinesig Bae Abertawe: “Mae'r cynnydd o flwyddyn i flwyddyn mewn darpariaeth band eang sy'n gallu trosglwyddo ar gyfradd Gigadid yn Sir Benfro yn gyflawniad enfawr i bawb sydd wedi cydweithio tuag at gynyddu'r ffigur hwnnw. Mae dod â gwell cysylltedd i bawb sy'n byw, yn gweithio ac yn ymweld â Sir Benfro yn rhan hanfodol o hybu'r economi leol a darparu mwy o gyfleoedd ar gyfer y dyfodol, ac mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau fel bod pawb yn cael y cyfle i elwa o'r manteision hynny.”