
Mae dolen gyswllt hollbwysig rhwng gogledd a de Sir Benfro yn dathlu 50 mlynedd ers ei hagor
Key Pembrokeshire link between north and south celebrates 50 years since opening
Mae heddiw (25 Mawrth) yn nodi 50 mlynedd ers agor Pont Cleddau i draffig, ac mae tua 4.4 miliwn o gerbydau’n ei chroesi bob blwyddyn.
Mae Pont Cleddau yn mesur 820 metr o hyd, ac mae ei brif rychwant yn mesur 213 metr, ac yn sefyll 37 metr uwchben y penllanw. Mae’n un o’r pontydd hytrawst blwch hiraf yn y byd.
Mae aber hir, llydan a dwfn y Ddau Gleddau yn rhannu’r sir yn ddwy ran, a chyn adeiladu’r bont roedd y daith o Neyland i Ddoc Penfro yn bellter o 28 milltir.
Roedd y cyngor sir yn gweithredu gwasanaeth cychod fferi rhwng y ddwy lan yn y gorffennol a oedd yn gallu cludo 24 o geir a 250 o gerddwyr ar bob taith.
Fodd bynnag, wrth i borthladd Aberdaugleddau dyfu, ac wrth i’r cyfleusterau petrocemegol gerllaw gael eu hadeiladu yn y 1960au, roedd bellach angen mynediad 24 awr i’r ardal. Oherwydd hyn, fe ddechreuwyd ar y cynlluniau i adeiladu Pont Cleddau a’r bont lai yn Westfield Pill.
Roedd y contract i adeiladu Pont Cleddau gwerth £2.1 miliwn, a bu farw gweithwyr mewn digwyddiad trasig yn ystod y cyfnod adeiladu.
Ar 2 Mehefin 1970, fe gwympodd drawst cantilifer 60 metr o hyd ar y lan ddeheuol, gan ladd pedwar o bobl. Arweiniodd y cwymp hwn at newid llwyr i’r safonau dylunio ac adeiladu ar gyfer y math hwn o bont.
O’r diwedd, fe agorwyd y bont i draffig yn 1975. Yn ystod y flwyddyn gyntaf o weithredu, fe ddefnyddiodd tua 885,900 o gerbydau’r bont. Erbyn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2009, fe gynyddodd y nifer hwn i 4,600,407, sef y ffigur uchaf a gofnodwyd.
Am tua 44 mlynedd, hyd at 2019, roedd tollau ar y bont, ac roedd teithwyr yn talu tâl bob ffordd nes bod Cyngor Sir Penfro yn llwyddo i gael gwared ar y tollau. Rhoddwyd cytundeb gyda Llywodraeth Cymru ar waith, ac mae pawb sy’n defnyddio’r bont wedi elwa ar gael gwared ar y tollau.
Ers Ebrill 1996, Cyngor Sir Penfro sy’n gyfrifol am gynnal a chadw Pont Cleddau.
Mae’r gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd yn cael ei wneud gan dîm bach o beirianwyr a gweithwyr sydd wedi’u lleoli yn swyddfa’r bont. Mae’r staff yn swyddfa’r bont yn bresennol trwy’r dydd, bob dydd, gan sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn gyflym i unrhyw newidiadau yn y tywydd, gan gau’r bont os bydd gwyntoedd cryf, neu ymateb i unrhyw argyfyngau eraill.
Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd y Cyngor: “Mae Pont Cleddau yn llwybr hollbwysig yn rhwydwaith ffyrdd ein sir, ac rydym yn cofio heddiw’r gwaith caled, ac yn anffodus, y bywydau a gollwyd, wrth adeiladu’r darn hanfodol hwn o seilwaith.
“Hanner can mlynedd ar ôl iddi agor i gerbydau am y tro cyntaf, nid yw nifer y cerbydau sy’n defnyddio Pont Cleddau wedi lleihau, ac nid oes modd gwadu faint mae’r bont wedi cyfrannu at economi’r sir.”
Ers cwblhau’r gwaith adeiladu gwreiddiol, mae gwaith cynnal a chadw sylweddol wedi’i wneud i’r bont, gan gynnwys:
- Gosod nenbont newydd (1993)
- Ailbaentio’r bont (1994 a 2011)
- Cryfhau pen y pier (2001)
- Diddosi’r bont, a rhoi wyneb newydd arni (2003/4)
- Gosod berynnau llithr (siglo) yn lle berynnau rholer (2014)
Ar gyfartaledd, mae’n costio £3.1 miliwn i gynnal a chadw’r bont y flwyddyn, yn seiliedig ar oes cynllunio amcangyfrifedig o 120 mlynedd. Amcangyfrifir y bydd pont newydd yn costio mwy na £140 miliwn yn ôl prisiau cyfredol.
Cyn i’r tollau gael eu dileu ar 28 Mawrth 2019, roedd cynnal a chadw’r bont yn cael ei ariannu’n gyfan gwbl o’r refeniw a gasglwyd gan ddefnyddwyr y bont, ond mae’r gwaith bellach yn cael ei ariannu’n bennaf gan grant blynyddol oddi wrth Lywodraeth Cymru.
(Llun: Keith Goffin)
Ychwanegodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett y canlynol: “I lawer o bobl yn Sir Benfro dim ond rhan o’r dirwedd yw Pont Cleddau, ond mae llawer o drigolion o hyd sy’n cofio’r pellteroedd a oedd rhaid eu teithio o amgylch yr aber cyn i’r bont gael ei hadeiladu. Yn wir, rwy’n dal i gofio fy nhad yn mynd â fi ar y cwch fferi ar draws yr aber yn y 1960au, o Neyland i Hobbs Point, a oedd yn daith go gyffrous i blentyn ifanc ar y pryd.
“I’r gymuned beirianyddol, mae Pont Cleddau yn adnabyddus am ei dyluniad unigryw, ac am fod y bont hiraf o’r math hwn yn y byd i gyd.”