Cam mawr ymlaen ar gyfer datblygiad tai yn Ninbych-y-pysgod
Major step forward for Tenby housing development
Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gadarnhau bod Cytundeb Gwasanaeth Cyn-Adeiladu wedi’i gymeradwyo ar gyfer datblygiad tai Brynhir yn Ninbych-y-pysgod.
Mae Morgan Construction o Gaerfyrddin wedi ei benodi yn dilyn gwerthusiad tendr dau gam.
Ar hyn o bryd mae Morgan Construction i fod i ddechrau gweithio ar y safle yn ystod haf 2025.
Bydd hyn yn amodol ar gyflawni amodau cynllunio, ystyried cyfnodau ecoleg ac aflonyddu cyn lleied â phosib yn ystod anterth y tymor twristiaeth.
Mae wyth cam wedi’u cynllunio ar hyn o bryd, gan ganiatáu i gartrefi fod ar gael yn gynt. Disgwylir i'r datblygiad gael ei gwblhau yn 2029.
Bydd cyfanswm o 125 o gartrefi yn cael eu hadeiladu gan Gyngor Sir Penfro ym Mrynhir.
Bydd y cartrefi hyn yn amrywio o ran maint ac yn cynnwys 93 o dai fforddiadwy (rhent cymdeithasol a chanolradd), 16 cydberchnogaeth, ac 16 fydd ar werth ar y farchnad agored.
Bydd y datblygiad hwn hefyd yn cynnwys ystod o ardaloedd chwarae a hamdden ffurfiol ac anffurfiol, gyda chysylltiadau uniongyrchol â'r dref.
Cynghorir unrhyw un sydd â diddordeb yn yr eiddo i lenwi ffurflen gais am dai i ymuno â chofrestr tai Cartrefi Dewisedig.
Fodd bynnag, os ydych eisoes ar y gofrestr tai, nid oes angen i chi wneud unrhyw beth arall ar hyn o bryd.
I ymuno â'r gofrestr tai, gweler: www.choicehomespembrokeshire.org/new-customers/how-to-apply
Bydd gofyniad cysylltiad lleol yn berthnasol i'r datblygiad tai hwn.
Bydd y meini prawf ar gyfer hyn yn cael eu datblygu'n agosach at yr amser, cyn cwblhau'r cam cyntaf.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet ar faterion Tai: "Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd y cam hwn, ac edrychaf ymlaen at weld y safle'n datblygu. Mae hwn yn ddatblygiad sylweddol ar gyfer Dinbych-y-pysgod a'r ardal gyfagos, gan ddarparu tai fforddiadwy mawr eu hangen."
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am hyn, neu unrhyw ddatblygiad arall, cysylltwch â'r Tîm Datblygu Tai drwy devclo@pembrokeshire.gov.uk neu 01437 764551.
Nodiadau i olygyddion
Capsiwn: Argraff artist o ddatblygiad Brynhir sydd ar ddod.