
Gwneud sblash mewn gala nofio a dorrodd record
Making a splash at record-breaking swimming gala
Mae’r nifer fwyaf erioed o ddisgyblion Sir Benfro wedi gwneud sblash mewn Gala Nofio ar gyfer Plant ag Anableddau a gynhaliwyd gan Chwaraeon Sir Benfro.
Daeth saith deg o blant o 13 o ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y sir i gymryd rhan – gan gynnwys rhai a oedd yno am y tro cyntaf – yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ddydd Mawrth, 8 Ebrill.
Dywedodd Amy Brumby o Nofio Cymru a oedd hefyd yn bresennol, mai’r digwyddiad, a noddwyd yn garedig gan Valero, oedd yr unig un o'i fath yng Nghymru.
Oherwydd yr ansawdd uchel a oedd i’w weld, cafodd rhai disgyblion eu cyfeirio at garfan nofio anabl Palod Sir Benfro ar ôl perfformiadau rhagorol. Cafodd pawb a gymerodd ran fedal.
Cafodd y digwyddiad ei gefnogi hefyd gan Gareth Mills-Bennett a Morgan Jones o Chwaraeon Anabledd Cymru ac roedd cenhadon ifanc o Ysgol Bro Gwaun yn rhan o'r tîm cadw amser a chofnodi.
Hoffai Chwaraeon Sir Benfro ddiolch i Hamdden Sir Benfro a'r holl gydlynwyr nofio a staff nofio'r Sir a gefnogodd y digwyddiad.
Diolch hefyd i Anne a Bob Adams – hoelion wyth nofio Cymru, am eu cefnogaeth barhaus, Angela Miles Ymarferydd Llwybr Gweithgareddau Anabledd Iechyd ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a John Havard, hyfforddwr nofio sydd wedi ymddeol yn ddiweddar.