English icon English
Bird flu - Ffliw Adar

Gofyn i aelodau’r cyhoedd beidio â chyffwrdd adar gwyllt sâl neu feirw wrth i ffliw adar gael ei gadarnhau

Members of the public asked not to touch dead or sick wild birds as Avian Influenza confirmed

Mae aelodau’r cyhoedd yn cael eu hannog i beidio â chyffwrdd unrhyw adar gwyllt sâl neu feirw y gallant ddod ar eu traws yn Sir Benfro ac i gadw eu cŵn oddi wrthynt.

Mae cannoedd o adar y môr wedi’u golchi i’r traethau yn ne Sir Benfro yn ddiweddar. Mae’r adar yn cael eu tynnu’n rheolaidd, ond mae mwy ohonynt yn cael eu golchi i’r traeth rhwng yr ymgyrchoedd glanhau. Gwylogod yw’r rhain fwyaf ohonynt, ond cofnodwyd gweilch y penwaig a gwylanwyddau hefyd.

Cynhaliwyd profion ar sampl o’r adar meirw ac mae ffliw adar wedi’i gadarnhau yr wythnos hon.

Mae ymateb amlasiantaeth ar waith i ymdrin â’r mater.

  • Dylid rhoi gwybod am adar gwyllt meirw mewn mannau cyhoeddus drwy ffonio 01437 764551 (neu 0345 601 5522 y tu allan i oriau) er mwyn i Gyngor Sir Penfro drefnu i’w casglu’n ddiogel.
  • Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sâl neu wedi’u hanafu (ar dir cyhoeddus neu breifat), cysylltwch â’r RSPCA ar 0300 1234 999.

Y sefydliadau sy’n cydweithio â’i gilydd i ymdrin â’r mater yw Cyngor Sir Penfro, Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro, Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru a Llywodraeth Cymru.

“Peidiwch â chyffwrdd unrhyw adar meirw neu sâl os byddwch yn dod ar eu traws a chadwch eich cŵn ar dennyn,” dywedodd y Cynghorydd David Simpson, Arweinydd Cyngor Sir Penfro.

“Gwnewch yn siŵr fod gennych wybodaeth wrth law am ble a pha bryd y cafodd yr aderyn neu’r adar eu darganfod. Mae defnyddio ap lleoli, fel what3words, i gofnodi lleoliad yr aderyn/adar sâl neu feirw yn ddefnyddiol dros ben hefyd.”

Dywedodd James Parkin, Cyfarwyddwr Natur a Thwristiaeth Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro: “Rydym yn cydweithio â Chyngor Sir Penfro ac asiantaethau partner i gynnig cymorth ar draws y sir yn dilyn adroddiadau am adar y môr yn cael eu golchi i draethau Sir Benfro yn ystod yr wythnos ddiwethaf.

“Rydym yn rhagweld y bydd cynnydd yn nifer yr adar sy’n cael eu golchi i’r traeth ar ôl y tywydd gwael yn ddiweddar ac rydym yn annog pobl i beidio â chyffwrdd unrhyw adar sâl neu feirw y gallant ddod ar eu traws, i gadw eu cŵn oddi wrthynt a dilyn unrhyw gyngor sy’n cael ei roi i roi gwybod am unrhyw achosion.”

Dywedodd Lisa Morgan o Ymddiriedolaeth Natur Gorllewin a De Cymru: “Mae’n bwysig iawn nad yw aelodau’r cyhoedd yn cyffwrdd adar sâl neu feirw, ond hefyd eu bod yn ein helpu i ddeall yr effeithiau cadwraeth ar ein poblogaethau rhyngwladol bwysig o adar y môr trwy barhau i roi gwybod am unrhyw rai y byddant yn dod ar eu traws.”

Dywedodd llefarydd Llywodraeth Cymru: “Mae’n bwysig nad yw pobl yn codi nac yn cyffwrdd unrhyw adar gwyllt sâl neu feirw a’u bod yn cadw eu cŵn ar dennyn i’w hatal rhag dod i gysylltiad â nhw hefyd. Byddem yn annog y cyhoedd i roi gwybod i DEFRA am unrhyw adar gwyllt meirw trwy ei linell gymorth neu’r ffurflen ar-lein (03459 335577 neu www.gov.uk/guidance/report-dead-wild-birds ). Dylid rhoi gwybod i’r RSPCA am unrhyw adar sâl neu sydd wedi’u hanafu (0300 1234 999).”

Ychwanegodd Rhian Sula, Rheolwr Cyffredinol yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Sir Benfro: “ Rydym yn drist i ddarganfod adar meirw ar draws rhai o’r traethau rydym yn gofalu amdanynt yn Sir Benfro.

“Rydym yn gwybod ei fod yn peri gofid i bobl weld adar sâl a meirw a byddwn yn parhau i gydweithio’n agos â sefydliadau partner ac asiantaethau’r llywodraeth i fonitro’r sefyllfa.”

Er nad oes Parth Atal Ffliw Adar ar waith ar hyn o bryd, cyngor Llywodraeth Cymru yw y dylai ceidwaid adar barhau i lenwi’r rhestr wirio hunanasesu bioddiogelwch.

Bioddiogelwch gofalus yw’r dull mwyaf effeithiol o reoli clefydau sydd ar gael a dylai pob ceidwad adar ddilyn mesurau bioddiogelwch manylach bob amser i atal y risg o frigiadau o achosion yn y dyfodol. 

Mae’r rhain i’w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru yn https://www.llyw.cymru/sites/default/files/publications/2017-11/ffliw-adar-cyngor-i-geidwaid-heidiau-bach.pdf