English icon English
Staff arlwyo yn gwirfoddoli yn noson gawl y cyngor

Menter gawl y gwanwyn yn cynnwys pethau ychwanegol dros wyliau’r Pasg

Spring soup initiative includes Easter holiday extras

Mae menter gawl Cyngor Sir Penfro wedi tyfu mewn poblogrwydd a bydd yn parhau gydol mis Ebrill – gan gynnwys ar ddyddiau Iau gwyliau’r Pasg.

Roedd cŵn poeth yn ystod yr hanner tymor yn boblogaidd iawn, a diolch i Andrew Rees, Cigyddion Arberth, fe fydd yna fyrgyrs ar gael dros wyliau’r Pasg eleni.

Bydd yr hen ffreutur yn Neuadd y Sir, Hwlffordd ar agor o 4:30pm tan 6:30pm ddydd Iau, 6 Ebrill a 13 Ebrill, ar gyfer bwyd a chwmni sy’n gyfeillgar i’r teulu.

Mae tua 35 i 40 o bobl yn mwynhau cawl am ddim bob wythnos, gyda rhai wedi dod yn ymwelwyr cyson, ac wrth i bobl o bob oed ddod, mae wedi dod yn ofod croesawgar sy’n pontio’r cenedlaethau.

Mae tîm arlwyo’r Cyngor yn gwirfoddoli eu hamser er mwyn paratoi cawl maethlon a blasus bob wythnos, gan ddefnyddio cynnyrch gan gyflenwyr hael y Cyngor. Mae cyllid grant wedi sicrhau y bydd y fenter yn parhau drwy fis Chwefror a mis Mawrth.

Wrth i’r gwanwyn gyrraedd a’r nosweithiau fyrhau, bydd y nosweithiau cawl yn parhau bob dydd Iau ym mis Ebrill.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: “Mae’r tîm arlwyo wedi hen arfer paratoi bwyd blasus a maethlon i’n plant ysgol, felly pan maen nhw’n troi eu llaw broffesiynol at gynhyrchu cawl i’r preswylwyr, rydych chi’n gwybod y bydd yn dda.

“Mae pob Aelod Cabinet wir yn gwerthfawrogi’r ymdrech a wnaed gan lawer o aelodau staff nid yn unig wrth feddwl am y fenter hon, ond hefyd wrth barhau i’w chefnogi gan sicrhau ei llwyddiant.

“Mae llif cyson wedi bod o bobl yn defnyddio’r fenter gawl, gyda rhai’n dewis eistedd a chael sgwrs, gan aros am awr neu ddwy, a rhai sy’n well ganddyn nhw fynd â’r cawl gyda nhw. Dewch draw i fwynhau cinio am ddim yn ystod y gwyliau a than ddiwedd Ebrill. Mae croeso mawr i bawb.”