English icon English
Omnia yng Nghanolfan Hamdden Dinbych y Pysgod

Merched Greenhill yn mwynhau digwyddiad Iechyd a Lles

Greenhill girls enjoy Health and Wellbeing event

Cymerodd merched Blwyddyn 9 yn Ysgol Greenhill yn Ninbych-y-pysgod ran mewn amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon yn diweddar sydd ar gael yn y gymuned leol.

Cafodd y digwyddiad ei drefnu gan Chwaraeon Sir Benfro mewn partneriaeth â'r clybiau chwaraeon ysgol, hamdden a chymunedol lleol.

"Roedd hi'n fore pleserus iawn gydag adborth cadarnhaol gan bob un o'r merched," meddai Cariann Griffiths o Chwaraeon Sir Benfro.

"Gobeithio bod rhoi cynnig ar y gweithgareddau gwahanol hyn wedi rhoi'r cymhelliant a'r hyder iddyn nhw drosglwyddo o chwaraeon ysgol i chwaraeon cymunedol."

Roedd y gweithgareddau chwaraeon yn cynnwys Omnia Fitness and Spin gan Ganolfan Hamdden Dinbych-y-pysgod a Drew, Pêl-fasged gan Archie ac Aled, Badminton gan Jordan Hart a Dawns gan Imogen Scourfield o Ysgol Ddawns Kelly Williams.

"Diolch i'r holl sefydliadau gwahanol am gefnogi'r digwyddiad ac i ddisgyblion Safon Uwch ac LLS am gymorth i gynnal y digwyddiad yn ogystal â Llysgennad Ifanc Aur Imi," meddai Cariann. "Cawsom hefyd rodd o ffrwythau o Siop Fferm a Blodau Four Seasons - diolch iddyn nhw hefyd."

Capsiwn:

Yn y lluniau gwelir rhai o’r gweithgareddau.