Cyhoeddi ymgeiswyr isetholiad Cyngor Sir Aberdaugleddau:Hakin
Milford Hakin County Council by-election candidates published
Mae'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i Gyngor Sir Penfro yn ward Aberdaugleddau:Hakin wedi'i chyhoeddi.
Mae enwebiadau wedi cau ac mae'r Datganiad o Bersonau a Enwebwyd wedi'i gyhoeddi.
Y rhai sy'n sefyll ar gyfer etholiad yw:
Derrick Abbott – Annibynnol
Sam Booth – Plaid Werdd Cymru
Lee James Bridges – Annibynnol
Duncan Edwards – Annibynnol
Nicola Catherine Harteveld – Llafur Cymru
Brian Taylor – Ymgeisydd Plaid Geidwadol Cymru
Scott Thorley – Reform UK
Sam Warden – Democratiaid Rhyddfrydol Cymru
Cynhelir yr etholiad ddydd Mawrth, 17 Mawrth.
Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ddydd Gwener 27 Chwefror.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy'r post (yn agor mewn tab newydd) neu newidiadau i'r trefniadau presennol ar gyfer pleidleisio drwy'r post gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Llun 2 Mawrth fan bellaf.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm ddydd Llun 9 Mawrth fan bellaf.
Mae'r datganiad llawn o'r personau a enwebwyd, gan gynnwys enwau llawn y pleidiau, ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.
Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad. Gall pobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cofrestru a gwladolion tramor bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Ni fydd angen tystiolaeth adnabod ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.