Miwsig yn y Maenordy i daro tant trwy ddychwelyd i Faenordy Scolton
Music at the Manor to strike a chord with return to Scolton
Mae Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro yn gwahodd pawb sy’n caru cerddoriaeth i ddod ac ymuno â nhw yn nigwyddiad Miwsig yn y Maenordy ddydd Gwener, 8 Mai.
Unwaith eto bydd tiroedd Maenordy Scolton yn croesawu llu o gerddorion ifanc Sir Benfro wrth iddynt arddangos eu doniau yn y dathliad cerddorol hwn.
Bydd y digwyddiad yn cynnwys perfformiadau gan ensembles Gwasanaeth Cerdd Sir Benfro gan gynnwys y gerddorfa, y band chwyth, y band pres, y gerddorfa hyfforddi gydag Ail Gamau, y band roc a phop a'r band mawr.
Bydd perfformiadau hefyd gan y côr cymunedol, ac enillydd gŵyl Valero uwchradd eleni, y drymiwr Ryan Block o Ysgol Bro Preseli.
Bydd y gatiau’n agor am 4.30pm a bydd y gerddoriaeth yn dechrau am 6pm. Mae tocynnau ar gael o ticketsource.co.uk/pembrokeshire-county-council