English icon English
llyfrau

Llyfrgell Gymunedol Arberth yn ailagor ar ôl gwaith atgyweirio

Narberth Community Library to re-open after repairs

Bydd Llyfrgell Gymunedol Arberth yn ailagor yn ei chartref yn St James Street ddydd Sadwrn, 7 Hydref ar ôl cwblhau gwaith adeiladu brys ar y safle.

Mae'r llyfrgell wedi bod yn gweithredu dros dro o Ganolfan Ddydd Lee Davies yng Nghanolfan Bloomfield tra bod gwaith atgyweirio’n cael ei gwblhau.

Er mwyn gallu dychwelyd y stoc i brif safle'r llyfrgell, bydd y llyfrgell dros dro yn cau i'r cyhoedd o ddydd Iau, 5 Hydref.

Bydd gwirfoddolwyr Cyfeillion Llyfrgell Arberth (FONL) yn ailagor y drysau yn St James Street am 10am ddydd Sadwrn, 7 Hydref ac yn croesawu cwsmeriaid yn ôl i'r cyfleuster.

Yn St James Street, bydd y llyfrgell yn dychwelyd i'w horiau agor arferol:

Dydd Mawrth: 10am – 12 hanner dydd, 3 – 5pm

Dydd Iau: 10am – 1pm, 2 – 5pm

Dydd Sadwrn: 10am – 1pm.

Diolchodd Gwasanaeth Llyfrgell y Cyngor a Chyfeillion Llyfrgell Arberth i gydweithwyr Gofal Cymdeithasol Oedolion a staff Canolfan Bloomfield am eu parodrwydd i rannu'r gofod i sicrhau gwasanaeth llyfrgell parhaus tra bod gwaith atgyweirio’n cael ei wneud.

Dywedodd y Cynghorydd Marc Tierney, sy'n cynrychioli ward Arberth Drefol: "Mae'n newyddion gwych bod Llyfrgell Gymunedol Arberth yn ailagor yn St James Street a gyda'i horiau agor arferol.

"Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gadw darpariaeth llyfrgell yn Arberth dros y misoedd diwethaf tra bod y gwaith atgyweirio’n cael ei wneud.

"Rwy'n gwybod na all gwirfoddolwyr Cyfeillion Llyfrgell Arberth aros i groesawu cwsmeriaid yn ôl trwy'r drysau y penwythnos hwn a byddwn yn argymell eich bod chi’n ymweld i weld beth sydd ar gael."

Bydd Llyfrgell Gymunedol Arberth yn aros ar safle St James Street cyn symud i adeilad newydd yn natblygiad Hen Ysgol Arberth, a ddisgwylir ym mis Chwefror 2024.

Mae Llyfrgell Gymunedol Arberth yn bartneriaeth tair ffordd rhwng Cyngor Sir Penfro, Cyfeillion Llyfrgell Arberth a Chyngor Tref Arberth.