
Llyfrgell Arberth yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus mewn cartref newydd
Narberth Library celebrating successful first year in new home
Mae Llyfrgell Arberth yn dathlu blwyddyn gyntaf lwyddiannus iawn yn ei chartref pwrpasol, gwych, newydd yn y dref.
Ar ôl agor yn y lle golau, awyrog a chroesawgar ar safle Town Moor ym mis Medi 2024, mae'r llyfrgell wedi denu 361 o aelodau newydd ac wedi dod yn ganolfan bwysig ar gyfer digwyddiadau a grwpiau cymunedol lleol.
Ariannwyd y Prosiect gan grant o £150,000 gan Lywodraeth Cymru a £30,000 o arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro gyda'r adeilad newydd yn rhan o gytundeb i ailddatblygu safle Hen Ysgol Arberth.
Mae'r llyfrgell, sydd bellach yn cynnwys swyddfa ar gyfer Clerc Cyngor Tref Arberth, yn bartneriaeth dair ffordd rhwng:
- Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Penfro (CSP), sy'n darparu chwe awr o amser staff â thâl yr wythnos (bob dydd Iau)
- Cyfeillion Llyfrgell Arberth, sy'n darparu naw awr o oriau gwirfoddol y Llyfrgell yr wythnos.
- Cyngor Tref Arberth, sy'n talu'r holl gostau sy'n gysylltiedig â’r adeilad (cyfleustodau, yswiriant, ac ati).
Mae gan y llyfrgell silffoedd symudol i greu mannau unigryw ac mae dwsinau o ddigwyddiadau a gweithgareddau wedi'u cynnal dros y flwyddyn gyntaf.
Mae darpariaeth dda ar gyfer pobl ifanc yn cynnwys Llyfrgell Iau liwgar gyda wal stori, cwtsh darllen a bwrdd secwinau.
Mae technoleg wedi'i hymgorffori yn y llyfrgell yn cynnwys hunanwasanaeth i gwsmeriaid fenthyg a dychwelyd llyfrau eu hunain, a hysbysfwrdd digidol sy'n arddangos digwyddiadau a gwybodaeth leol.
Mae gan Lyfrgell Arberth Agor+ wedi'i alluogi hefyd, lle gall aelodau cofrestredig gael mynediad i'r Llyfrgell y tu allan i oriau wedi'u staffio rhwng 6am a 10pm.
Hyd yn hyn mae 199 awr o ddefnydd wedi'i gofnodi y tu allan i'r oriau staff, gyda'r llyfrbryf cynharaf yn cyrraedd y llyfrgell am 7am.
Mae'r llyfrgell hefyd wedi gweld cynnydd mewn benthyciadau Cymraeg ym mlwyddyn gyntaf ei gweithrediad
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet CSP dros Wasanaethau Trigolion: "Rwy'n falch iawn o weld bod Llyfrgell Arberth wedi mynd o nerth i nerth.
“Mae'n amlwg ei bod yn llenwi bwlch o ran anghenion y bobl yn lleol ac mae Cyfeillion Llyfrgell Arberth wedi gwneud gwaith gwych wrth gefnogi ei horiau agor a'i ddefnydd. Maen nhw i gyd yn haeddu llongyfarchiadau enfawr ar ran y gwasanaeth llyfrgell a'r dinasyddion lleol. Mae'r model partneriaeth yn ddull arloesol o rannu lle a chostau a hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Tref Arberth am eu cefnogaeth i roi'r prosiect hwn ar waith.”
Dywedodd Marc Tierney, Cadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth: "Mae Llyfrgell Arberth yn llwyddiant gwirioneddol lle mae'r sector gwirfoddol a llywodraeth leol yn parhau i weithio gyda'i gilydd i ddiogelu'r gwasanaeth cyhoeddus hanfodol hwn gyda chefnogaeth ariannol mawr ei angen gan Lywodraeth Cymru.
“Mae'n bron i ddegawd ers i mi lansio'r ymgyrch i gadw Llyfrgell Arberth ar agor, gyda chefnogaeth y gymuned. Yn ystod y cyfnod hwnnw, mae Cyfeillion Llyfrgell Arberth nid yn unig wedi cadw'r llyfrgell yn y dref, rydym wedi cefnogi gwelliannau sydd bellach yn golygu bod y llyfrgell ar agor bob dydd rhwng 6am a 10pm i ddefnyddwyr Agor+, gyda’r staff a'n gwirfoddolwyr yn rhannu eu gwybodaeth ar wahanol adegau trwy gydol yr wythnos.”
Dywedodd y Cynghorydd Charlie Meredydd, Maer Arberth: "Gyda phleser mawr rwy'n nodi pen-blwydd cyntaf agor y Llyfrgell.
“Bydd cael y llyfrgell yng nghanol Arberth, ynghyd â'r trefniadau Mynediad Agored, o fudd i bawb sy'n defnyddio'r cyfleuster ardderchog hwn ac yn helpu i addysgu cenedlaethau'r dyfodol.”
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am Lyfrgell Arberth yn:
https://www.sir-benfro.gov.uk/llyfrgelloedd-sir-benfro/llyfrgell-gymunedol-arberth
Mae Llyfrgell Arberth ar agor gyda staff neu wirfoddolwyr:
- Dydd Mawrth 10am – 12 hanner dydd, 3-5pm
- Dydd Mercher 3-5pm
- Dydd Iau 10am – 1pm, 2-5pm
- Dydd Sadwrn 10am – 1pm
Oriau gwaith Clerc y Cyngor Tref yw: 10.30am – 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener. Cyswllt: Kris O'Kane, Clerc ar 01834 504020.
Ar hyn o bryd mae gan Gyfeillion Llyfrgell Arberth 17 o wirfoddolwyr llyfrgell. Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am wirfoddoli, gofynnwch yn y llyfrgell. Neu cysylltwch drwy dudalen Facebook Cyfeillion Llyfrgell Arberth.
I nodi blwyddyn ers adleoli’r llyfrgell i Town Moor, bydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth yn cynnal bore dathlu ddydd Sadwrn 25 Hydref rhwng 10am a 12 hanner dydd, galwch heibio i gael gwybod beth sydd gan Lyfrgell Arberth i'w gynnig.