English icon English
Rates relief - Rhyddhad ardrethi

Neges atgoffa am ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch

Rates relief reminder for retail, leisure and hospitality businesses

Mae neges yn mynd allan i fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir Benfro i’w hatgoffa i wneud cais am ryddhad ardrethi.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2023/24.

Mae’r eiddo a all fanteisio yn cynnwys siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Rhoddir rhyddhad i fusnesau cymwys ar ffurf gostyngiad yn y bil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2023 a 31 Mawrth 2024.

Nod y cynllun yw rhoi cymorth i eiddo cymwys a feddiannir wrth gynnig gostyngiad o 75% ar filiau ardrethi annomestig.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 31 Mawrth 2024.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhyddhad a’r ffurflen gais ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.