
Cyfle newydd i gael cyllid gwella strydlun
New chance for streetscape improvement funding
Mae cynllun grant newydd i wella ffryntiadau eiddo masnachol yn cael ei lansio drwy'r Cynllun Gwella Strydoedd o fewn rhaglen Cronfa Ffyniant Gyffredin 2025.
Bydd y cynllun grant newydd hwn yn rhedeg ochr yn ochr â'r cynllun paentio presennol a fydd yn parhau.
Mae'r cynllun grant newydd ar gyfer adeiladau busnes ym mharth canol trefi Abergwaun ac Wdig, Hwlffordd, Aberdaugleddau, Penfro, Doc Penfro a Dinbych-y-pysgod.
Gall perchnogion cymwys a thenantiaid/lesddeiliaid gyda chaniatâd ysgrifenedig gan berchennog yr eiddo wneud cais am grant o 80 y cant, hyd at uchafswm gwerth grant o £24,999, tuag at gyfanswm y gwariant ar wella ffasadau allanol.
Mae'r cynllun grant newydd hwn yn estyniad i'r cynllun gwella cynllun paentio blaenorol ar gyfer eiddo masnachol sy'n parhau o fewn parthau canol trefi y trefi uchod, ac ar gyfer Tyddewi, Saundersfoot, Arberth, Crymych a Threfdraeth.
Bydd y cynllun paentio yn darparu cyllid ar gyfer 80% o'r costau, hyd at uchafswm gwerth grant o £4,999, tuag at ailbaentio ffasâd(au) sy'n wynebu'r stryd.
Nod y grant yw helpu i wella golwg canol ein trefi ac annog ymwelwyr i gefnogi busnesau.
Mae gwaith cymwys yn cynnwys ailosod arwyddion, ailosod neu lanhau ffenestri ac elfennau eraill o’r adeilad, atgyweirio ac addurno ffasâd allanol.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller: "Mae'r cynlluniau paentio strydlun blaenorol wedi gweld nifer o adeiladau yn ein prif drefi a threfi llai yn gael eu gweddnewid.
"Mae cefnogi ein trefi i ffynnu yn rhan o'r ymrwymiad i adfywio ein
cymunedau, ac mae'r cynllun hwn yn rhan fach o hynny."
Bydd cymorth ar gyfer cynlluniau paentio adeiladau masnachol yn y trefi cymwys o dan raglen flaenorol y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn parhau o dan y rhaglen newydd hon.
Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau o dan yr alwad hon, am brosiectau y mae'n rhaid eu cwblhau erbyn 30 Tachwedd 2025, yw 31 Mai 2025.
Os yw'r cynllun yn cael gormod o geisiadau, bydd ymgeiswyr cymwys ar gyfer y cymorth grant disgresiwn hwn yn cael eu dyrannu ar sail y cyntaf i'r felin.
Ni ddylid gwario unrhyw arian cyn cymeradwyo'r grant, gan na ellir dyfarnu'r grantiau yn ôl-weithredol.
Mae hyn yn cynnwys gwaith lle mae contractau eisoes wedi'u llofnodi neu archebion wedi'u gwneud, cyn cymeradwyo cyllid.
I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau llawn y cynllun, ewch i wefan y Cyngor:
https://www.sir-benfro.gov.uk/cronfa-ffyniant-gyffredin-y-du/cynllun-gwella-strydlun-sir-benfro neu anfonwch e-bost i spfstreetenhancement@pembrokeshire.gov.uk