Cynnig gofal plant newydd yn rhoi’r dechrau gorau mewn bywyd i fwy o blant yn Sir Benfro
New childcare offer gives more Pembrokeshire children the best start in life
Mae teuluoedd ledled Sir Benfro yn cael eu hannog i fanteisio ar gynnig gofal plant estynedig Dechrau’n Deg, sy’n golygu bod pob plentyn nawr yn gallu cael 12.5 awr o ofal plant wedi’i ariannu yr wythnos.
Mae’r ddarpariaeth well yn rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru i gefnogi plant yn eu blynyddoedd cynnar a helpu teuluoedd i gael mynediad at ofal plant o ansawdd uchel a chyfleoedd dysgu cynnar.
Mae’r cynnig gofal plant a ariennir yn rhoi cyfleoedd i blant ddysgu, chwarae a datblygu mewn amgylchedd diogel a meithringar. Mae hefyd yn helpu rhieni a gofalwyr gyda chostau gofal plant ac yn sicrhau bod mwy o hyblygrwydd ar gyfer gwaith, hyfforddiant a bywyd teuluol.
Anogir rhieni a gofalwyr i gysylltu â ni i gael gwybod mwy am y cymorth sydd ar gael a sut i fanteisio ar y cynnig gofal plant a ariennir.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â flyingstart@pembrokeshire.gov.uk neu gwnewch gais ar https://www.sir-benfro.gov.uk/dechraun-deg
Dywedodd y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall, Aelod Cabinet dros Gymunedau, Blynyddoedd Cynnar a Chwarae: “Rwy’n falch iawn y bydd mwy o deuluoedd ledled Sir Benfro yn gallu elwa nawr ar y cynnig gofal plant a ariennir o 12.5 awr. Buddsoddi ym mlynyddoedd cynnar ein plant yw un o’r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud, gan helpu plant i ddatblygu’r sgiliau, yr hyder a’r sylfeini sydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.
“Mae’r cynnig estynedig hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi teuluoedd a sicrhau bod pob plentyn yn gallu cael profiadau dysgu cynnar o ansawdd uchel. Byddwn i’n annog rhieni a gofalwyr i ddarganfod mwy am y cynnig a manteisio ar y cymorth sydd ar gael.”
Disgwylir i’r cynnig gofal plant estynedig fod o fudd i deuluoedd ledled y sir trwy gynyddu mynediad at ofal plant fforddiadwy a chefnogi datblygiad cymdeithasol, emosiynol ac addysgol plant.
Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i weithio’n agos gyda darparwyr gofal plant a phartneriaid i sicrhau bod teuluoedd yn gallu defnyddio gwasanaethau o safon sy’n diwallu eu hanghenion ac i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant.