Tu allan i Sinema'r Palace yn Hwlffordd

Bywyd newydd i sinema y dref

New lease of life for town cinema

Rhannu:

Bydd gweithredwr profiadol Sinema’r Palas yn Hwlffordd yn rhoi bywyd newydd i’r safle.

Mae’r gweithredwr sinema annibynnol Sinema Palace Ltd wedi llofnodi prydles gyda Chyngor Sir Penfro i weithredu’r safle a’r nod yw agor cyn diwedd gwyliau’r Pasg.

Mae perchennog Sinema Palace Ltd, Alejandro Whyatt, sydd wedi’i leoli yn Essex, yn gweithio gyda’i dad Ashley a’u tîm i wella ansawdd y sain a’r llun yn y sinema er mwyn bod yn barod i sgrinio’r ffilm Super Mario Bros. newydd.

Bydd rhagor o waith i ailwampio a gwella’r adeilad rhestredig Gradd II, a agorwyd yn 1913, yn wreiddiol y Gyfnewidfa Yd, yn cael ei wneud dros y misoedd sydd i ddod.

Mae Mr Whyatt yn gweithredu sinemâu annibynnol eraill mewn adeiladau hen a thraddodiadol yng ngogledd Cymru, Essexa Norfolk.

Ef yw trydedd genhedlaeth ei deulu yn y diwydiant, gan ddilyn yn ôl traed ei dad a’i ddad-cu. 

“Mae Cyngor Sir Penfro wrth ei fodd bod prydles newydd wedi’i llofnodi i weithredu Sinema’r Palas yn Hwlffordd, gan ddod â’r safle yn ôl yn fyw a sicrhau buddsoddiad yn yr adeilad hanesyddol hwn,” meddai Aelod y Cabinet dros Lle, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd y Cynghorydd Paul Miller.

Dywedodd y Cynghorydd Aelod Lleol Tom Tudor: “Gan mai fi yw Cynghorydd Sir Ward y Castell, rwy’n falch iawn bod Sinema’r Palas yn ailagor fel safle sinema. Rwy’n gobeithio ei weld unwaith eto yn rhoi bywyd newydd i ran uchaf Hwlffordd a dod â phobl yn ôl i’r dref. Rwy’n edrych ymlaen at ei weld yn cael effaith gadarnhaol ar yr economi o’i amgylch.”

Dywedodd Alejandro Whyatt: “Rydyn ni eisiau cadw cymaint o’r nodweddion pensaernïol gwreiddiol â phosibl a rydym yn croesawu ymgysylltiad y bobl leol i wneud hyn yn llwyddiant.”