English icon English
Armed Forces Champion Hayley Edwards Cllr Hancock

Aelod Eiriolwr Newydd dros y Lluoedd Arfog

New Member Champion for Armed Forces

Mae gan Gyngor Sir Penfro Aelod Eiriolwr newydd dros y Lluoedd Arfog.

Mae’r Cynghorydd Simon Hancock wedi ymgymryd â’r rôl a arferai gael ei chyflawni gan y Cynghorydd John Cole.

Mae’r Eiriolwr dros y Lluoedd Arfog yn rhoi llais i bersonél y Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd, cyn-filwyr a’u teuluoedd i sicrhau bod y grŵp hwnnw’n cael ei ystyried wrth ddatblygu polisïau’r Cyngor a phenderfyniadau’n cael eu gwneud.

Dywedodd y Cynghorydd Hancock, Cynghorydd Dwyrain Neyland: "Mae’n anrhydedd mawr i mi gael fy mhenodi’n Eiriolwr newydd dros y Lluoedd Arfog ar gyfer Sir Benfro, sir sydd â chysylltiad hir a godidog â lluoedd arfog y genedl. 

"Rwy’n benderfynol o gefnogi cymuned y Lluoedd Arfog, yn enwedig cyn-filwyr yn y sir a meithrin dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth y cyhoedd ynghylch materion sy’n effeithio ar y gymuned. 

"Mae angen i ni gydnabod yr aberth a wneir gan bersonél ymroddedig ein Lluoedd Arfog.

"Mae gan bob teulu ei gysylltiad personol ei hun â’r lluoedd arfog. Yn fy achos i, roedd gen i ddad-cu a oedd yn Dunkirk a thad a oedd yn gwasanaethu yn yr Awyrlu Brenhinol. 

"Fel yr Eiriolwr rwyf i eisiau sicrhau bod Cyngor Sir Penfro yn cyflawni ei ymrwymiadau ar draws meysydd tai, addysg a gofal iechyd a bod unrhyw rwystrau’n cael eu dileu."

Cafodd rôl newydd y Cynghorydd Hancock ei chroesawu gan Swyddog Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog, Hayley Edwards, a’i rôl hi yw gweithio ar y cyd â sefydliadau i sicrhau bod unigolion yn cael eu trin yn deg ac nad ydynt o dan anfantais drwy eu gwasanaeth yn y Lluoedd Arfog.

Dywedodd Hayley, sy’n filwr wrth gefn ar hyn o bryd: ‘‘Rwy’n edrych ymlaen at gefnogi’r Cynghorydd Simon Hancock fel ein Heiriolwr newydd dros y Lluoedd Arfog. Mae’n dod i’r rôl gyda phrofiad blaenorol o weithio yng Nghymuned y Lluoedd Arfog a fydd o fudd mawr i’n cyn-filwyr, personél sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a’u teuluoedd o fewn Sir Benfro.’’

Yn 2022 enillodd Cyngor Sir Benfro Wobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr maes Amddiffyn (ERS) ar gyfer 2022.

Mae’r anrhydedd yn cydnabod cyflogwyr sydd wedi dangos eu cefnogaeth i gymuned y Lluoedd Arfog yn weithredol, drwy weithredu polisïau ymarferol yn y gweithle.

 

Nodiadau i olygyddion

Llun: Simon Hancock, yn y llun gyda Swyddog Cyswllt Rhanbarthol y Lluoedd Arfog, Hayley Edwards, yw'r Hyrwyddwr Aelodau newydd dros y Lluoedd Arfog.