English icon English
Milford Haven waterway - Dyfrffordd Aberdaugleddau

Croesewir cadair barhaol newydd wrth i Celtic Freeport symud i'r cyfnod cyflawni

New permanent chair welcomed as Celtic Freeport moves into delivery phase

Croesawodd Llywodraethau Cymru a’r DU Ed Tomp fel Cadeirydd parhaol newydd y Porthladd Rhydd Celtaidd, yn nodi pontio’r prosiect o’r cam datblygu i’r cam darparu. 

Cychwynnodd Ed Tomp ei swydd ar 1 Rhagfyr 2024 a bydd yn arwain y prosiect ail-ddiwydiannu ac adfywio hanfodol hwn.  Mae disgwyl i’r Porthladd Rhydd Celtaidd ddenu £8.4bn o fuddsoddiad preifat a chyhoeddus, creu 11,500 o swyddi newydd ac ychwanegu £8.1bn o werth economaidd (Gwerth Ychwanegol Gros).  Mae’r weledigaeth hon wedi’i seilio ar gymhellion buddsoddi ar gyfer busnesau sy’n sefydlu gweithrediadau newydd mewn ardaloedd datblygu dynodedig - safleoedd treth - yng Nghastell-nedd Port Talbot a Sir Benfro.

O 26 Tachwedd 2024 i 30 Medi 2034, gall busnesau sy’n buddsoddi yn safleoedd treth y Porthladd Rhydd Celtaidd wneud defnydd o ystod o gymhellion. Mae’r rhain yn cynnwys dim Ardrethi Busnes am y pum mlynedd cyntaf, gostyngiadau sylweddol mewn cyfraniadau yswiriant gwladol a lwfansau cyfalaf uwch yn cynnwys gwariant cyfalaf llawn estynedig, i gefnogi eu penderfyniadau buddsoddi.

Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn gonsortiwm cyhoeddus-preifat, sy’n cynnwys Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, Cyngor Castell-nedd Port Talbot, Cyngor Sir Penfro a Phorthladd Aberdaugleddau, ynghyd â datblygwyr ynni adnewyddadwy, cwmnïau ynni, chyfadeiladau diwydiannol, asedau arloesol, sefydliadau academaidd a darparwyr addysg.  Mae’r Porthladd Rhydd Celtaidd yn cynnwys porthladdoedd Aberdaugleddau a Phort Talbot ac yn pontio datblygiadau ynni glân ac asedau arloesi, terfynfeydd tanwydd, gorsaf bŵer a pheirianneg drom ar draws De-Orllewin Cymru.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd y Cynghorydd Paul Miller, yr Aelod Cabinet dros Leoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd:

“Mae agor y Porthladd Rhydd Celtaidd ar gyfer busnes yn newyddion gwych i'n rhanbarth.

“Mae maint y cyfle sydd o flaen Dyfrffordd Aberdaugleddau ac i Sir Benfro yn enfawr ac rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae'r chwyldro ynni sydd i ddod yn ei gynnig i dyfu economi Sir Benfro, i sicrhau buddsoddiad ac i greu a chynnal swyddi da.

“Rydym am sicrhau bod y cymhellion o'r Porthladd Rhydd Celtaidd o fudd i'r bobl o'r cymunedau o fewn y ddyfrffordd ac ar draws Sir Benfro. Rwy'n hyderus y bydd yn rhan sylweddol wrth ysgogi ffyniant economaidd cynhwysol ar draws y sir.

“Gyda'n gilydd, gyda'n partneriaid, gallwn ddechrau'r gwaith o greu buddsoddiad ystyrlon i bobl Sir Benfro, a fydd yn drawsnewidiol i'n cymunedau a'n busnesau."

 “Mae’r wythnos hon yn nodi achlysur pwysig wrth i ni symud o ddatblygiad i’r cam darpariaeth.  Wedi ei gyfoethogi gan ystod o gymhellion buddsoddi, bydd cynllun datblygu y Porthladd Rhydd Celtaidd yn camu yn ei flaen i gefnogi’r diwydiant presennol i ddatgarboneiddio, wrth greu ecosystem rhwng Sir Benfro a Chastell-nedd Port Talbot, ble y gall diwydiannau gwyrdd megis tanwyddau cynaliadwy, hydrogen a gwynt alltraeth arnofiol, ffynnu”, dywedodd Ed Tomp, Cadeirydd y Porthladd Rhydd Celtaidd.

Gwefan y Porthladd Rhydd Celtaidd a sianeli cyfryngau cymdeithasol (LinkedInLinkedIn, X ac YouTube).