Rheoliadau newydd i bobl sy’n cadw adar gofrestru heidiau
New regulations for bird keepers to register flocks
Mae mesurau newydd i ddiogelu'r sector dofednod yn well rhag achosion o ffliw adar yn y dyfodol wedi'u cyflwyno gan y Llywodraeth a byddant yn dod i rym ar 1 Hydref 2024.
O dan y newidiadau a gyhoeddwyd bydd gofynion newydd i bawb sy’n cadw adar - waeth beth yw maint eu haid - gofrestru eu hadar yn swyddogol.
Pa adar fydd y newid hwn yn effeithio arnynt?
Mae'r rheolau newydd yn cynnwys perchnogion heidiau iard gefn, adar ysglyfaethus a bridwyr colomennod, ond nid ydynt yn effeithio ar adar sy’n anifeiliaid anwes mewn cawell (ac eithrio unrhyw rywogaethau o ddofednod) a gedwir yn gyfan gwbl y tu mewn i annedd ddomestig, fel parot, caneri neu byji, na fyddant byth yn gadael yr eiddo heblaw i ymweld â milfeddyg neu gyfnod byr arall.
Drwy gofrestru eu hadar, bydd ceidwaid yn sicrhau eu bod yn derbyn diweddariadau pwysig sy'n berthnasol iddynt, megis ar unrhyw achosion lleol o glefydau adar a gwybodaeth am reolau bioddiogelwch i helpu i ddiogelu eu heidiau.
Bydd hyn yn helpu i reoli achosion posibl o glefydau, fel ffliw adar a chlefyd Newcastle, ac yn cyfyngu unrhyw ledaeniad.
Bydd y wybodaeth ar y gofrestr hefyd yn cael ei defnyddio i nodi pob ceidwad adar mewn parthau rheoli clefydau, gan ganiatáu gwyliadwriaeth fwy effeithiol, fel y gellir codi parthau ar y cyfle cynharaf posibl a gall masnach ailddechrau yn gyflymach yn dilyn achosion o glefyd adar.
Bydd y gofynion cofrestru newydd yn ei gwneud yn haws i geidwaid adar a'r llywodraeth gydweithio i olrhain a rheoli lledaeniad clefydau adar hysbysadwy yng Nghymru.
Bydd APHA hefyd yn gallu cysylltu â cheidwaid adar os oes achos o glefyd hysbysadwy yn eu hardal, er enghraifft ffliw adar, a fydd yn ei dro yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu a gwarchod heidiau.
Mae'n bwysig cofio bod bioddiogelwch a hylendid craff yn parhau i fod yn hanfodol er mwyn diogelu heidiau rhag bygythiad clefydau.
Bydd angen i geidwaid adar ddarparu gwybodaeth, gan gynnwys eu manylion cyswllt, y lleoliad lle cedwir adar a manylion yr adar (rhywogaethau, nifer a'r hyn y maent yn cael eu cadw ar ei gyfer).
Yng Nghymru a Lloegr, anogir ceidwaid i gofrestru eu hadar cyn y dyddiad cau cyfreithiol ar 1 Hydref 2024.
Gallwch gofrestru ar wefan UK Gov.
Os hoffech gael cyngor pellach, cysylltwch â'r Tîm Lles Anifeiliaid drwy awelfare@pembrokeshire.gov.uk