tri phlentyn yn dysgu sut i ddefnyddio olwyn grochenwaith gyda dyn gwallt llwyd

Ysgolion newydd ac amseroedd cyffrous o'n blaenau ar gyfer Prosiect Sbardun

New schools and exciting times ahead for Springboard Project

Rhannu:

Gyda chyllid newydd o’r Gronfa Ffyniant Gyffredin wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU, mae'r prosiect Sbarduno, Dysgu Sir Benfro wedi gallu ymestyn ei gyrhaeddiad i ysgolion newydd a dyblu'r gefnogaeth mae'n ei gynnig i'w bartneriaid ysgol sydd eisoes wedi'u sefydlu.

Gall Sbardun nawr gynnig cymorth i ysgolion a phosibiliadau hyfforddi i aelodau o'r teulu sy’n oedolion i ategu'r cyfleoedd Dysgu i Deuluoedd mae'r prosiect wedi canolbwyntio arnyn nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

I ddathlu Wythnos Addysg Oedolion cynhaliodd Sbardun dair Ffair o weithgareddau teuluol rhad ac am ddim yn Ysgol Gynradd Gymunedol Aberdaugleddau, Ysgol Gynradd Waldo Williams ac Ysgol Glannau Gwaun.

Fe wnaeth llawer o deuluoedd fynychu bob digwyddiad. Aeth teuluoedd â phlant o'r dosbarth meithrin hyd at Flwyddyn 6, i gyd yn newydd i Sbardun, i'r gweithgareddau gyda brwdfrydedd gwirioneddol.

Roedd crochenwaith, addurno cacennau, gwneud marciau, crefft llwy stori a choedwriaeth ymhlith y nifer o weithgareddau am ddim oedd ar gael.

Mae gweithgareddau Sbardun a gynlluniwyd ar gyfer mis Hydref yn Ysgol Waldo Williams ac Ysgol Glannau Gwaun bellach wedi'u trefnu'n llawn diolch i'r diddordeb a gynhyrchwyd gan y Ffeiriau.

Mae'r Ffeiriau yn nodi lansiad gweithgareddau am ddim i deuluoedd yn Ysgol Waldo Williams ac Ysgol Glannau Gwaun — ysgolion y mae Laura Phillips, y Cydlynydd Sbardun, yn falch iawn o allu gweithio gyda nhw.

Springboard Glannu Gwaun

Dywedodd Laura: “Mae gan Addysg Deuluol Sbardun y pŵer i ymgysylltu, ennyn brwdfrydedd, ysbrydoli a chefnogi teuluoedd i archwilio sgiliau a diddordebau newydd a all gael effaith newid bywyd i bawb sy'n cymryd rhan.

“Mae gallu cynnig y cyfleoedd hyn i fwy o ysgolion ledled Sir Benfro nag erioed o'r blaen yn rhywbeth yr ydym ni ond wedi gallu ei wneud diolch i'r grant Ffyniant Bro hyd yma”.

Nesaf i elwa o'r grant hwn fydd Ysgol Penrhyn Dewi a Prendergast.

Dywedodd Debbie Bond, Pennaeth Ysgol Waldo Williams: “Mae teuluoedd Ysgol Waldo Williams mor gyffrous i gael y cyfle hwn i ddysgu sgiliau newydd gyda'u plant. 

“Rydyn ni'n teimlo mor lwcus i gael Sbardun i ymgysylltu â'n teuluoedd a'u cefnogi. Mae amseroedd cyffrous o'n blaen!”

Dywedodd Mari Jones, Pennaeth Glannau Gwaun “Rydym ni’n teimlo’n freintiedig i gael y cyfle i groesawu'r prosiect sbardun i Ysgol Glannau Gwaun.

“Mae ein disgyblion a'n rhieni eisoes wedi profi'r cyfleoedd cyffrous a diddorol sydd ar gael iddynt drwy brynhawn lansio hynod lwyddiannus.

“Mae'r disgyblion yn siarad gyda brwdfrydedd am yr wythnosau nesaf ac fel ysgol rydym ni’n gwybod y bydd y prosiect hwn yn hynod fuddiol i'n disgyblion a'u teuluoedd”.

Mae llawer mwy o wybodaeth am Sbardun ar gael ar dudalen Facebook y Prosiect.