English icon English
New Zealand 3 - Seland Newydd 3

Ymweld â Seland Newydd yn grymuso arweinwyr ifanc

New Zealand experience empowers young leaders

Mae grŵp o bobl ifanc o Ysgol Greenhill wedi mwynhau taith gofiadwy a thrawsnewidiol i Seland Newydd, dan arweiniad Plan International.

Aeth y grŵp o Ysgol Greenhill, gyda chefnogaeth gweithwyr ieuenctid o Wasanaeth Ieuenctid Sir Benfro, ar yr antur addysgol a diwylliannol eithriadol hwn fel rhan o’u prosiect ieuenctid Gwyddom Ein Taith.

Ariannwyd y prosiect yn llawn gan Taith, menter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o greu cyfleoedd sy’n newid bywydau i ddysgu, astudio a gwirfoddoli ledled y byd.

Nod y daith oedd ehangu gorwelion, meithrin twf personol, a dyfnhau dealltwriaeth o drais ar sail rhywedd a'i effaith fyd-eang.

Gwahoddwyd y grŵp mewn cydnabyddiaeth o’u gwaith caled a’u hymroddiad i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd yn eu cymuned.

Yn ystod eu taith pythefnos, ymgollodd y grŵp yn y tirweddau syfrdanol a’r diwylliant cyfoethog, gan gynnwys ymweliadau ag Auckland, Rotarua, Waitomo, Taupo a Hamilton.

New Zealand 2 - Seland Newydd 2

Treuliodd y grŵp amser yn Auckland, lle aethant am daith ar fws, gan archwilio diwylliant bywiog y ddinas, yr harbwr godidog, a chymdogaethau amrywiol. Hefyd mentrodd y grŵp i ogofâu pryfed tân Waitomo, a dysgu am y diwylliant Māori lleol.

Yn Rotorua, profodd y grŵp wefr y ceir llysg a gondola Skyline, gan weld golygfeydd panoramig o’r ddinas. Buont yn cymryd rhan mewn noson ddiwylliannol draddodiadol Māori, a dysgu am hanes ac arferion cyfoethog pobl Mitai Māori.

Treuliodd y grŵp amser hefyd mewn gwersylloedd Blue Light, yn cymryd rhan mewn gweithgareddau yn yr awyr agored ac mewn gweithgareddau adeiladu tîm. Mae Blue Light yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r heddlu i gyflwyno amrywiaeth o raglenni a gweithgareddau ieuenctid, i leihau nifer yr achosion o bobl ifanc yn troi at droseddu neu sydd yn ddioddefwyr trosedd, ac yn annog gwell cysylltiadau yn y gymuned.

Yn Llyn Taupo, fe wnaethon nhw fwynhau mordaith ar gwch, wrth edmygu'r golygfeydd godidog a cherfiadau yn y creigiau Māori hynafol.

Ymwelodd y grŵp â Sŵ Hamilton ac archwilio rhaeadr hardd Huka.

Drwy gydol eu taith, cymerodd y grŵp ran mewn cyfarfodydd gyda’r sefydliadau sy’n gweithio i fynd i’r afael â thrais ar sail rhywedd.

New Zealand 1 - Seland Newydd 1

Clywodd y grwpiau beth oedd sefydliadau’n ei wneud a chawsant gyfle hefyd i gyflwyno’r hyn y maent yn ei wneud yng Nghymru.

Un sefydliad o'r fath oedd LeVa, lle cawsant groeso cynnes a'u trochi yn niwylliant Somoan. Roedd y diwrnod yn ysbrydoledig, yn gyffrous ac yn llawn emosiwn.

Cafodd y grŵp hefyd y cyfle i dreulio diwrnod gyda Rygbi Seland Newydd, yn dysgu am eu mentrau i hyrwyddo tegwch rhwng y rhywiau a newid cymdeithasol cadarnhaol o fewn y gamp a’r gymuned ehangach.

Cyfarfu’r grŵp hefyd â Dear Em, grŵp grymus, llawn cymhelliant sy’n darparu mannau diogel i fenywod a merched gael llais yn Seland Newydd.

Mae'r grŵp wedi ffurfio grŵp cymunedol newydd, "Ein Llais Ein Taith", ac mae'n bwriadu parhau â'u gwaith ar drais ar sail rhywedd yn ôl yng Nghymru.

Mae’r profiad wedi grymuso’r bobl ifanc hyn i ddod yn arweinwyr yn eu cymuned, yn eiriol dros gydraddoldeb rhywiol ac yn gweithio tuag at ddyfodol mwy disglair i bawb.

Dywedodd un aelod o’r grŵp:“Mae mynd i Seland Newydd wedi fy helpu i gael meddylfryd mwy positif. Mae gweld sut roedd sefydliadau eraill ar draws y byd hefyd eisiau atal trais, wedi gwneud i mi sylweddoli ein bod ni i gyd yn gweithio gyda’n gilydd.”