Gwobrwyo Ysgol Gymunedol Neyland am waith ar iechyd meddwl a thrawma
Neyland Community School rewarded for work on mental health and trauma
Mae Ysgol Gymunedol Neyland yn falch o fod wedi cyflawni statws Ysgol sy'n Ystyriol o Drawma, gan danlinellu ymrwymiad yr ysgol i gefnogi disgyblion i ddysgu a ffynnu.
Mae Ysgol sy'n Ystyriol o Drawma yn un sydd â'r adnoddau i gefnogi plant â phroblemau yn deillio o drawma neu broblemau iechyd meddwl a all fod yn rhwystr i ddysgu.
Er mwyn cyflawni statws Ysgol sy'n Ystyriol o Drawma, roedd yn rhaid i'r ysgol ddangos bod yr egwyddorion Diogelu, Cysylltu, Rheoli ac Adlewyrchu yn cael eu gweithredu.
Mae'n rhaid i ymgeiswyr ar gyfer y Wobr Ystyriol o Drawma ac Iechyd Meddwl fod wedi cwblhau hyfforddiant staff TISUK a dangos y defnydd o oedolion sydd ar gael yn emosiynol i gefnogi plant sydd wedi profi trawma.
Yn dilyn cais trylwyr, ymwelodd aelod o dîm y wobr â'r ysgol am y diwrnod i weld y ddarpariaeth sydd ar gael, ethos yr ysgol, a siarad â rhieni/gofalwyr, plant a staff.
Bu hefyd yn ymweld ag ystafelloedd dosbarth a thystio adegau allweddol o'r diwrnod ysgol megis dechrau'r dydd ac amser cinio.
Roedd yr adroddiad yn dilyn yr ymweliad a chadarnhau statws Ystyriol o Drawma yn nodi: "Mae Ysgol Gynradd Gymunedol Neyland yn darparu amgylchedd diogel, gofalgar a meithringar lle mae pob plentyn yn cael ei gefnogi i ffynnu a theimlo'n hapus ac yn ddiogel wrth iddynt ddysgu.
“Mae'r plant yn hapus oherwydd eu bod yn cael eu cefnogi gan bob aelod o staff o'r funud y maent yn cyrraedd yr ysgol tan y byddant yn gadael."
Daeth yr adroddiad i'r casgliad: "Mae plant yn gallu siarad yn hyderus ac yn wybodus am bynciau sy'n ymwneud â'u lles a'u hiechyd meddwl ac maen nhw’n gefnogol i'w gilydd - maen nhw'n caru eu hysgol, yn breuddwydio'n fawr ac yn gweithio'n galed!"
Amlygwyd defnydd yr ysgol o fws cerdded, lle mae athrawon yn casglu plant o wahanol rannau o'r dref i gerdded gyda'i gilydd i'r ysgol fel arfer gorau.
Gwnaeth y bws cerdded leihau absenoldebau ac achosion o gyrraedd yn hwyr gan roi dechrau cadarnhaol i'r diwrnod a chyfle i siarad ag oedolion ar y ffordd i'r ysgol.
Dywedodd Pennaeth Ysgol Gymunedol Neyland, Clare Hewitt: "Rydym yn hynod falch o'r wobr hon a chael ein cydnabod am ein hymarfer sy'n ystyriol o drawma. Rydym wedi bod yn datblygu'r dull hwn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'n cymryd amser ac nid yw'n digwydd trwy ddamwain.
"Mae'n ddiwylliant ac ethos yr ydym yn ymfalchïo ynddo ar gyfer ein holl blant, teuluoedd a staff sy'n gwneud Neyland yn lle arbennig iawn i fod."
Ychwanegodd James White, Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant Cyngor Sir Penfro: "Mae Neyland wedi bod yn arloeswr ar gyfer y dull ystyriol o drawma o'r dechrau, ac mae'n wych gweld eu gwaith yn cael ei gydnabod.
"Rwyf wedi cael fy mhlesio'n arbennig gan y modd y mae'r grŵp staff cyfan a’r disgyblion yn yr ysgol wedi ymgymryd â'r gwaith, yn ogystal â'r uwch arweinwyr".
Nodiadau i olygyddion
Disgyblion Ysgol Gymunedol Neyland yn dal plac Ysgol sy’n Ystyriol o Drawma. Yn y llun gyda'r plant (o'r chwith i'r dde): Clare Hewitt (Pennaeth), Gemma Morris (Pennaeth Cynorthwyol), Chris Griffiths (Pennaeth Cynorthwyol / CADY) a James White, Pennaeth Ymgysylltu a Chynhwysiant y Cyngor.