English icon English
Cloc gyda darnau arian a phlanhigion yn blaguro

Nodyn atgoffa am ryddhad ardrethi ar gyfer busnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch

Rates relief reminder for retail, leisure and hospitality businesses

Mae nodyn atgoffa yn cael ei anfon at fusnesau yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yn Sir Benfro nad ydynt eto wedi gwneud cais am ryddhad ardrethi.

Gwnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi’r cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru ar gyfer 2025/26.

Ymhlith yr eiddo a all elwa mae siopau, tafarndai a bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.

Rhoddir rhyddhad i fusnesau cymwys fel gostyngiad i’r bil ardrethi yn seiliedig ar feddiannaeth rhwng 1 Ebrill 2025 a 31 Mawrth 2026. 

Nod y cynllun yw darparu cymorth ar gyfer eiddo a feddiannir cymwys drwy gynnig gostyngiad o 40% ar filiau ardrethi annomestig.

Y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais yw 31 Mawrth 2026.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhyddhad a’r ffurflen gais ar gael ar ein gwefan yn: https://www.sir-benfro.gov.uk/trethi-busnes/rhyddhad-ardrethi-manwerthu-hamdden-a-lletygarwch-yng-nghymru