Nodyn atgoffa canfasiad blynyddol i bleidleiswyr cyn etholiadau'r Cyngor yn 2027
Annual voter canvass reminder ahead of 2027 Council elections
Mae'r canfasiad blynyddol yn ofyniad cyfreithiol a bydd yn cael ei gynnal gan Awdurdodau Lleol ledled y DU.
Gofynnir i drigolion Sir Benfro wirio bod eu manylion cofrestru etholiadol yn gyfredol i sicrhau eu bod yn gymwys i bleidleisio yn y dyfodol - gydag etholiadau Awdurdodau Lleol i ddod y flwyddyn nesaf.
Mae'r canfasiad blynyddol yn caniatáu i Gyngor Sir Penfro gadw'r gofrestr etholiadol yn gyfredol, i nodi pwy sydd mewn perygl o golli eu llais mewn etholiadau, a'u hannog i gofrestru cyn ei bod hi'n rhy hwyr.
Gall unrhyw un sy'n 16 oed neu'n hŷn bleidleisio yn etholiadau Llywodraeth Leol a'r Senedd yng Nghymru, waeth ble y cawsant eu geni.
Anogir pobl sydd wedi symud cartref yn ddiweddar yn arbennig i wirio eu manylion.
Bydd llawer o drigolion eisoes wedi derbyn e-bost yn gofyn iddynt wirio a chadarnhau eu manylion ond os nad ydych, byddwch yn cael llythyr yn yr wythnos nesaf.
Dywedodd Will Bramble, Swyddog Cofrestru Etholiadol Cyngor Sir Penfro: "Y canfasiad blynyddol yw ein ffordd o sicrhau bod y wybodaeth ar y gofrestr etholiadol ar gyfer pob cyfeiriad yn gywir ac yn gyfredol.
"I wneud yn siŵr nad ydych chi'n colli eich cyfle i ddefnyddio eich llais mewn etholiadau, dilynwch y cyfarwyddiadau a anfonwyd atoch chi.
"Os ydych chi eisiau cofrestru, y ffordd hawsaf yw i wneud hynny ar-lein yn www.gov.uk/register-to-vote."
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro a gwefan y Comisiwn Etholiadol.