County Hall

Achos llys niwsans sŵn yn dangos cryfder partneriaid yn gweithio gyda'i gilydd

Noise nuisance court action shows strength of partners working together

Rhannu:

Mae erlyn menyw o Hakin am chwarae cerddoriaeth uchel er gwaethaf rhybuddion blaenorol yn enghraifft wych o sefydliadau yn gweithio gyda'i gilydd ac yn defnyddio pwerau newydd i wella bywydau cymunedau lleol.

Mae Tania Evans, o James Street, Hakin yn denant i gymdeithas tai ‘ateb’ ac wedi cael ei rhybuddio am chwarae cerddoriaeth uchel yn barhaus a chael partïon aflonyddgar yn yr eiddo.

Diolch i gytundeb Cymru yn gyntaf rhwng Cyngor Sir Penfro ac ateb, mae CSP wedi rhoi awdurdod dirprwyedig i Gydlynwyr Tai ateb a enwir i gyflwyno Rhybuddion Gwarchod y Gymuned ac, os oes angen, Hysbysiadau Gwarchod y Gymuned.

Mae'r symudiad hwn yn rhoi'r adnoddau i ateb ymchwilio a gorfodi ac yn cynyddu nifer y swyddogion ledled y sir i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Yn yr achos hwn swyddog ateb wnaeth gyflwyno'r Rhybudd Gwarchod y Gymuned a phan barhaodd yr ymddygiad gwael, yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.

Roedd yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn ymdrin ag ystod o ymddygiadau i gydymffurfio â nhw, gan gynnwys rhoi'r gorau i chwarae cerddoriaeth uchel gan amharu ar y gymuned.

Fodd bynnag, parhaodd yr ymddygiad gwael ac, o ganlyniad, daethpwyd â'r achos i'r llys.

Yn Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Iau 23 Ebrill, fe wnaeth CSP, yr awdurdod erlyn, ei herlyn am dorri'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.

Plediodd Evans yn euog i chwe chyhuddiad o dorri'r Hysbysiad yn gysylltiedig â chwarae cerddoriaeth uchel yn y cyfeiriad.

Gorchmynnwyd iddi dalu £162 am dri o'r chwe chyhuddiad heb unrhyw gosb ar wahân am y tair euogfarn arall.

Rhaid i Evans hefyd dalu gordal dioddefwr o £194 a chostau o £650.

Rhaid iddi dalu cyfanswm o £1330.

Dywedodd Nathan Miles, Rheolwr Diogelu'r Cyhoedd yng Nghyngor Sir Penfro: "Dyma'r tro cyntaf i'r dull hwn o fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol rhwng CSP ac ateb arwain at achos llys.

“Gobeithio y bydd hyn yn rhoi rhywfaint o dawelwch i'r gymuned leol sydd wedi gorfod dioddef sŵn parhaus o'r cyfeiriad hwn a'r effeithiau ar eu bywydau fel colli cwsg, straen a gorbryder.

“Ni fydd CSP a'i bartneriaid yn meddwl dwywaith cyn erlyn lle mae'r gymuned yn cael ei heffeithio gan ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod hyn yn parhau er gwaethaf rhybuddion.”