
Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Spotlight Sir Benfro 2025
Nominations open for Pembrokeshire Spotlight Awards 2025
Yn dilyn llwyddiant blaenorol Gwobrau Sbotolau Sir Benfro, sy'n dathlu plant a phobl ifanc sydd wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac wedi cyflawni rhywbeth eithriadol, rydym yn falch iawn o gynnal y digwyddiad ar 21 Tachwedd 2025
Mae BAM Nuttall, Aberaeron CDS a Pure West Radio, yn garedig iawn yn noddi’r fenter hon ar y cyd rhwng y Swyddfa Hawliau Plant a Phobl Ifanc, sydd wedi trefnu i’r digwyddiad hwn gael ei gynnal eto eleni, a Gwasanaethau Plant o fewn Cyngor Sir Penfro.
Rydym yn eich gwahodd i enwebu unigolion neu grwpiau o blant a phobl ifanc (5-25 oed) rydych chi'n meddwl sy'n haeddu cydnabyddiaeth am eu cyflawniadau eithriadol. Mae cyfanswm o 12 o gategorïau gwahanol ac mae esboniad mwy manwl o’r rhain ar y ffurflen enwebu. Gall unrhyw un enwebu!
- Y stori fwyaf ysbrydoledig
- Gwneud gwahaniaeth yn y gymuned
- Sicrhau newid cadarnhaol
- Arweinydd ifanc/Mentora cyfoedion
- Celfyddydau
- Cerddoriaeth
- Chwaraeon
- Addysg
- Eco-Hyrwyddwr
- Llais
- Codi Arian
- Y Gymraeg
Os hoffech gopi papur, anfonwch neges e-bost at Nicky.Edwards@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 20 Hydref 2025.