English icon English
Sports awards nominations launched - Cynigion ar gyfer Gwobrau Chwaraeon wedi'u lansio

Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2025

Nominations open for Sport Pembrokeshire Awards 2025

Mae paratoadau ar y gweill i edrych yn ôl ar flwyddyn lawn o gyflawniadau chwaraeon yn Sir Benfro.

Bydd Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro 2025 yn dychwelyd i Folly Farm ddydd Gwener, 28 Tachwedd ac mae enwebiadau ar gyfer y categorïau gwobrau yn agor heddiw (dydd Llun, 8 Medi).

Mae'r categorïau'n cydnabod cyflawniadau chwaraeon unigolion a thimau ac ymroddiad gwirfoddolwyr a hyfforddwyr mewn chwaraeon cymunedol.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet y Cyngor dros Wasanaethau Trigolion, ei fod yn gobeithio y bydd cymaint o enwebiadau â’r llynedd, neu hyd yn oed yn fwy, yn cael eu derbyn yn 2025.

“Mae wedi bod yn haf anhygoel ac roedd pêl-droedwyr menywod Cymru yn cymryd rhan yn eu twrnamaint mawr cyntaf yn uchafbwynt.

“Nawr rydyn ni'n troi ein sylw at ein huchafbwynt chwaraeon ein hunain. Mae Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro wedi bod yn mynd o nerth i nerth ac rydym yn gobeithio na fydd 2025 yn wahanol.

“Mae Gwobrau Chwaraeon Sir Benfro yn gyfle i ddathlu llwyddiant chwaraeon ar bob lefel yn ogystal â diolch i'r rheini, yn enwedig y gwirfoddolwyr, sy'n hanfodol ar gyfer chwaraeon ar lawr gwlad."

Mae enwebiadau'n cau ar 12 Hydref.

Diolch unwaith eto i noddwyr y Gwobrau, Valero, Pure West Radio a Folly Farm am sicrhau y gall dathliad chwaraeon Sir Benfro barhau.

Gellir gwneud enwebiadau ar-lein: 

Mae'r categorïau gwobrau fel a ganlyn:

  • Hyfforddwr y Flwyddyn.
  • Gorchest Chwaraeon i Fenywod
  • Gorchest Chwaraeon i Ddynion.
  • Gorchest Chwaraeon i Fechgyn (dan 16 oed)
  • Gorchest Chwaraeon i Ferched (dan 16 oed)
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd
  • Gwobr Chwaraeon Anabledd Iau (dan 16)
  • Yr Arwr Tawel
  • Trefnydd Clwb y Flwyddyn
  • Gorchest Tîm y Flwyddyn
  • Gorchest Tîm Iau (Dan 16)
  • Gwirfoddolwr Ifanc y Flwyddyn
  • Clwb y Flwyddyn
  • Llwyddiant Oes

Gwobr ychwanegol fydd yn cael ei chyhoeddi ar y noson yw'r Wobr Ysgolion, sy'n cydnabod ysgol leol sy'n gweithio'n galed iawn i wneud chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn hwyl, yn gynhwysol ac yn arloesol – ac sy’n meithrin cysylltiadau cryf â'r gymuned leol.

Gallwch enwebu nawr yn: https://www.pembrokeshire.gov.uk/forge/index.asp?x=336DEC64E3&lang=eng

Nodiadau i olygyddion

Pennawd:Brian Hearne a Tom Richards (ill dau Clwb Tenis Hwest).Enillwyr y wobr Achievements bywyd y llynedd a Hyfforddwr y Flwyddyn, yn y drefn honno.