Ymdrech tîm anhygoel i gefnogi clwb rhwyfo
Oar-some team effort to support rowing club
Mae tîm Chwaraeon Sir Benfro wedi trawsnewid safle clwb rhwyfo poblogaidd yn Sir Benfro.
Wedi'i noddi gan Valero fel rhan o Ddiwrnod Tasglu blynyddol Chwaraeon Sir Benfro, cododd y tîm gwirfoddol eu brwsys i roi cot newydd o baent i Glwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig.
Mae Clwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig, sydd wedi'i leoli yng nghyffiniau prydferth Tref Isaf Abergwaun, yn Glwb Insport achrededig Chwaraeon Anabledd Cymru ar lefel Rhuban.
Mae Diwrnod y Tasglu - sydd bellach yn ei seithfed flwyddyn - yn ffordd fach y gall tîm Chwaraeon Sir Benfro roi rhywbeth yn ôl i'r gymuned gref o glybiau chwaraeon a gweithgarwch corfforol yn lleol.
Dywedodd Matt Freeman, Rheolwr Chwaraeon Sir Benfro: "Fe wnaethom gefnogi'r clwb oherwydd eu bod yn cynnig ystod eang o gyfleoedd cynhwysol i gymuned Abergwaun a'r ardaloedd cyfagos.
“Mae'r clwb yn cael ei lywodraethu'n dda, gyda thîm ymroddedig o wirfoddolwyr gweithgar sy'n gweithio ochr yn ochr â phwyllgor ymroddedig i hybu cynaliadwyedd a sicrhau ei lwyddiant hirdymor.”
Dywedodd Martha Owen, Llywydd Clwb Hwylio Bae Abergwaun a Chadeirydd Clwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig: "Cawsom syrpreis hyfryd pan gododd y cyfle i dderbyn y gefnogaeth.
“Roedd yr adeilad yn edrych yn druenus ac roedd angen rhywfaint o ofal a sylw yn bendant. Gan weithio gyda thîm Chwaraeon Sir Benfro, rydym ar y cyd wedi trawsnewid yr adeilad. Mae'n edrych yn wych ac allwn ni ddim diolch digon iddyn nhw.”
Dywedodd Stephen Thornton, Rheolwr Materion Cyhoeddus Valero: "Rydym wedi ymrwymo i gefnogi chwaraeon cymunedol yn Sir Benfro ac roeddem yn falch iawn o gefnogi'r fenter benodol hon.
“Rydym yn dymuno pob llwyddiant i Glwb Rhwyfo Jemima Abergwaun ac Wdig yn y dyfodol a diolch i staff Chwaraeon Sir Benfro am eu hamser a'u hymroddiad i helpu chwaraeon ar lawr gwlad.”