English icon English
county hall river cropped

Cymorth parhaus wedi’i gynllunio wrth i ddarpariaeth Cyfleoedd Dydd newid

Ongoing support planned as Day Opportunities provision changes

Mae Aelodau o Gabinet y Cyngor wedi clywed mai darparu cymorth parhaus ar gyfer pobl sy’n mynychu Canolfannau Dydd Anchorage, Bro Preseli a Lee Davies a’u teuluoedd yw’r brif flaenoriaeth o hyd wrth fynd ati i wneud y newidiadau sy’n ofynnol i’r ddarpariaeth Cyfleoedd Dydd yn Sir Benfro. 

Yn eu cyfarfod ddydd Llun, cefnogodd Aelodau’r Cabinet gynnig a oedd yn golygu y byddai amser ychwanegol yn cael ei neilltuo i sicrhau proses bontio ddidrafferth i ddefnyddwyr gwasanaeth barhau i fanteisio ar Gyfleoedd Dydd mor agos â phosibl i’w cartrefi.

Pwysleisiwyd yn gryf na fyddai unrhyw un sy’n mynychu Anchorage, Bro Preseli neu Lee Davies yn cael ei adael heb ddarpariaeth yn dilyn y newidiadau ac y bydd gwaith yn parhau gyda defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd yn y dyfodol.

Edrychodd ymgynghoriad a gynhaliwyd gyda defnyddwyr gwasanaeth, rhanddeiliaid a phartneriaid yn 2019 ar ddatblygu model newydd ar gyfer Cyfleoedd Dydd yn Sir Benfro ac, ers Covid, mae gostyngiad sylweddol wedi bod yn nifer y bobl sy’n mynychu Canolfannau Dydd.

Nodwyd ffordd fwy cynaliadwy o gefnogi cyfleoedd dydd i bobl hŷn a phobl ag anableddau wrth i’r Cyngor bennu’r gyllideb ar gyfer 24/25.

Mae’r Cyngor wedi cynnig dod â chytundebau lefel gwasanaeth â Chanolfan Ddydd Bro Preseli yng Nghrymych a Chanolfan Ddydd Lee Davies yn Arberth i ben a chyflwyno model menter gymdeithasol.

Mae’r modelau menter gymdeithasol hyn yn dilyn cyfnod hir o weithio gyda phartneriaid a byddant yn caniatáu hyblygrwydd o ran darparu gwasanaethau ac yn cryfhau cysylltiadau rhwng Cyngor Sir Penfro a’r Trydydd Sector ymhellach.

Fodd bynnag, bydd y broses o ad-drefnu Cyfleoedd Dydd yn arwain at gau Canolfan Ddydd Anchorage yn Noc Penfro.

Mae pawb sy’n mynychu Anchorage a’u teuluoedd wedi bod yn rhan o drafodaethau’n ymwneud â Chyfleoedd Dydd yn y dyfodol ac opsiynau sydd wedi’u dewis ar gyfer y dyfodol.

Mae gan Ganolfan Ddydd Meadow Park y capasiti i gefnogi pob un o’r rhai sy’n defnyddio gwasanaethau Anchorage ar hyn o bryd, a bydd trafnidiaeth uniongyrchol yn cael ei darparu i Meadow Park ar gyfer y rhai sy’n awyddus i fanteisio ar y cyfle.

Mae swyddogion wedi nodi cyfleoedd cymunedol yn Noc Penfro hefyd.

Cafodd yr argymhelliad i gau Canolfan Ddydd Anchorage o 1 Tachwedd 2024 a sefydlu modelau menter gymdeithasol yng Nghanolfannau Dydd Bro Preseli a Lee Davies o 1 Ebrill 2025 ei gefnogi gan yr Aelodau.

Meddai’r Cynghorydd Tessa Hodgson, Aelod o’r Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu: “Yn Sir Benfro, rydym eisiau sicrhau bod gan bobl hŷn a phobl ag anableddau amrywiaeth o bethau ystyrlon i’w gwneud yn eu cymunedau lleol sy’n cynnig diben, cysylltiad a, lle y bo’n briodol, cynnydd.”

“Ar bob cam, rydym wedi ceisio cydbwyso anghenion defnyddwyr gwasanaeth a’u teuluoedd â’r angen i newid a byddwn ni’n parhau i gefnogi pawb sy’n defnyddio’r gwasanaethau wrth i ni fynd drwy’r broses hon.

“Rydym wedi gweithio’n galed i nodi darpariaeth amgen ac addas ar gyfer pob defnyddiwr gwasanaeth ac rydym wedi darparu’r bws sy’n mynd yn uniongyrchol o Anchorage i Meadow Park ar ôl gwrando ar adborth.

“Hoffwn bwysleisio na fydd unrhyw ddefnyddiwr gwasanaeth yn cael ei adael heb ddarpariaeth yn dilyn y penderfyniad yma heddiw a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda phawb i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i bawb sy’n manteisio ar gyfleoedd dydd.”