Cyfarfod ar-lein yn cael ei drefnu ar gyfer Fforwm y Landlordiaid
Online meeting planned for Landlords Forum
Gwahoddir landlordiaid Sir Benfro i glywed diweddariadau ar y sector rhentu preifat yn y trydydd Fforwm Landlordiaid fis nesaf.
Bydd y fforwm, a drefnir gan Gyngor Sir Penfro, yn cael ei gynnal ar 15 Gorffennaf ac eleni bydd yn cael ei gynnal o bell trwy Microsoft Teams.
Bydd pob landlord y mae ei fanylion eisoes gan Gyngor Sir Penfro yn derbyn e-bost am y fforwm yn fuan a gofynnir iddynt ymateb i dderbyn y ddolen ymuno.
Bydd y cyfarfod Teams yn cael ei gynnal rhwng 6pm a 7.30pm.
Yn ystod y fforwm bydd Gillian Owens o'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl Cenedlaethol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am rentu'r sector preifat a'r Ddeddf Rhentu Cartrefi.
Bydd gwybodaeth hefyd am y grantiau a'r benthyciadau sydd ar gael i landlordiaid gan gynnwys manylion cynlluniau grant Troi Tai’n Gartrefi a Chartrefi Gwag Cenedlaethol a diweddariad ar Gynllun Lesio Cymru yn Sir Benfro.
Bydd Tîm Adfywio'r Cyngor hefyd yn rhoi cyflwyniad ar grantiau canol trefi sydd ar gael ar hyn o bryd.
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch: PRleasingscheme@pembrokeshire.gov.uk