Diwrnod agored mewn datblygiad tai newydd yn Nhyddewi
Open day at new St Davids housing development
Mae Cyngor Sir Penfro yn dathlu cwblhau Cam 1 Llys Glasfryn, Tyddewi.
Adeiladwyd y datblygiad gan GRD Homes, ac mae Cam 1 yn cynnwys 4 byngalo gyda 2 ystafell wely, a 3 byngalo gyda 1 ystafell wely.
Mae Cam 2 yn cynnwys 11 byngalo gyda 2 ystafell wely, a’r gobaith yw ei gwblhau yn gynnar yn 2026.
Mae'r holl eiddo yng Ngham 1 wedi'u dyrannu, a bydd eiddo Cam 2 ar gael ar gyfer cynigion ychydig fisoedd cyn ei gwblhau.
Defnyddir Polisi Gosod Lleol i ddyrannu'r eiddo a grëwyd ar y cyd ag aelodau lleol, Cyngor Dinas Tyddewi, a'r gymuned leol.
I ddathlu cwblhau Cam 1, mae Cyngor Sir Penfro yn cynnal diwrnod agored mewn un eiddo sydd newydd ei gwblhau.
Bydd hyn yn cael ei gynnal ddydd Mawrth 28 Ionawr 2025, rhwng 2pm a 6pm. Mae hyn i aelodau o'r cyhoedd gael y cyfle i weld y safle ac un eiddo, gofyn cwestiynau, a rhoi adborth.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet ar faterion Gweithrediadau Tai: "Bydd y cartrefi o ansawdd uchel hyn yn darparu tai mawr eu hangen yn Nhyddewi ac yn ffurfio rhan o'n rhaglen ddatblygu ehangach.
“Mae cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn flaenoriaeth allweddol i'r Cabinet ac edrychaf ymlaen at gwrdd â thenantiaid newydd a'r gymuned ehangach yn y digwyddiad diwrnod agored."
I gael rhagor o wybodaeth am ddatblygiadau tai Cyngor Sir Penfro, neu'r digwyddiad hwn, ffoniwch 01437 764551, neu e-bostiwch devCLO@pembrokeshire.gov.uk