Dog seizure 2 - Cwn yn crio 2

Ymgyrch Safepup: Llys y Goron yn gwrthod apêl yn erbyn atafaelu 26 o gŵn

Operation Safepup: Crown Court dismisses appeal against seizure of 26 dogs

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro wedi croesawu penderfyniad Llys y Goron i wrthod apêl a gyflwynwyd gan Mrs Rachel Roberts o Benlan Oleu, Cas-mael, Sir Benfro ynghylch atafaelu 26 o gŵn ar sail lles anifeiliaid.

O ganlyniad, gall y Cyngor gadarnhau y gellir ailgartrefu'r anifeiliaid yn ddiogel mewn cartrefi parhaol addas. 

Atafaelwyd y cŵn yn wreiddiol o dan Adran 18 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 yn dilyn pryderon difrifol ynglŷn â'u lles.

Yn dilyn ymchwiliadau milfeddygol a lles anifeiliaid cynhwysfawr, gwnaeth y Cyngor gais am Orchymyn Adran 20, a’i sicrhau, sy'n caniatáu parhau i gadw'r cŵn i ddiogelu eu lles.

Dog seizure 1 - Cwn yn crio 1

Clywyd apêl yn erbyn y gorchymyn hwnnw dros ddau ddiwrnod. Ar ôl ystyried y dystiolaeth, gwrthododd y llys yr apêl a chadarnhaodd fod y prawf statudol o dan Adran 20 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 wedi'i fodloni.

Wrth ddod i'w benderfyniad, canfu'r llys fod:

  • Safon gyffredinol llety a hwsmonaeth y cŵn yn wael.
  • Llawer o'r cŵn yn dioddef o glefyd deintyddol sylweddol a hirsefydlog.
  • Tystiolaeth gref o bla chwain eang, yn effeithio ar y cŵn bach yn enwedig.
  • Y cŵn yn dioddef poen, anafiadau a chlefydau ar raddfa sylweddol.
  • Nifer yr anifeiliaid yng ngofal y perchennog yn ormod iddynt allu diwallu anghenion lles y cŵn yn ddigonol.
  • Heb ymyrraeth, roedd y cŵn yn dioddef neu'n debygol o barhau i ddioddef.

O ganlyniad i benderfyniad y llys, mae Cyngor Sir Penfro wedi cael ei awdurdodi i barhau i ofalu am y cŵn ac i ddechrau'r broses o'u rhoi mewn cartrefi diogel, cariadus a pharhaol lle gellir diwallu eu hanghenion lles yn llawn.

Dog seizure 3 - Cwn yn crio 3

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Penfro: "Lles anifeiliaid fydd ein prif bryder ar bob achlysur.

“Rydym yn croesawu penderfyniad y llys, sy'n cadarnhau bod y camau a gymerwyd yn angenrheidiol ac yn gymesur i ddiogelu lles y cŵn dan sylw.

“Rydym yn falch y gall y cŵn hyn nawr symud ymlaen i ddyfodol gwell a chael y cyfle i fyw mewn cartrefi diogel a gofalgar lle gellir diwallu eu hanghenion lles unigol.”

Mae'r Cyngor yn dymuno diolch i'r gweithwyr proffesiynol milfeddygol a'r RSPCA a gefnogodd yr ymchwiliad a'r gofal parhaus o'r cŵn trwy gydol yr achos.

Bydd y cŵn nawr yn cael yr asesiadau lles a'r prosesau ailgartrefu angenrheidiol.

Bydd cais am gostau yn cael ei glywed ar 30 Tachwedd 2026.