English icon English
20mph sign - Arwydd 20mya

Cyfle i ofyn am newidiadau i'r terfynau 20mya yn Sir Benfro

Opportunity to request changes to the 20mph limits in Pembrokeshire

Mae Cyngor Sir Penfro yn cynnig cyfle i drigolion ofyn am newidiadau i derfynau 20mya yn eu hardal.

Daw'r cam hwn yn dilyn araith yn amlinellu ei flaenoriaethau trafnidiaeth gan Ken Skates, yr Ysgrifennydd Cabinet dros Drafnidiaeth newydd, a addawodd roi llais dinasyddion Cymru wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau ar drafnidiaeth, gan nodi cynllun tri cham ar 20mya.

I gynorthwyo'r dull hwn mae Cyngor Sir Penfro yn croesawu barn adeiladol gan drigolion.

Os ydych yn dymuno anfon awgrym, gyda rhesymau dilys, am pam y dylid eithrio ffordd o'r terfyn cyflymder cenedlaethol o 20mya yn Sir Benfro, bydd y Cyngor yn cofnodi eich adborth ac yn ei adolygu unwaith y bydd canllawiau eithriadau newydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Mae'r Cyngor yn disgwyl derbyn y canllawiau hyn erbyn yr haf. 

Ni fydd y Cyngor yn gallu cofnodi unrhyw sylwadau cyffredinol am y Polisi Cenedlaethol 20mya, gan mai mater i Lywodraeth Cymru a Gweinidogion Llywodraeth Cymru yw hynny.

Os yw eich adborth yn ymwneud â Chefnffordd, nid cyfrifoldeb Awdurdodau Lleol yw'r rhain chwaith. Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â Chefnffyrdd e-bostiwch TrunkRoads20mph@gov.wales.

Mae mwy o wybodaeth am Gefnffyrdd ar gael ar Fap Data Cymru.

Sylwch, er mwyn cofnodi/ystyried eich adborth bydd angen llinell gyntaf eich cyfeiriad a'ch cod post arnom.

Bydd hyn yn cynorthwyo swyddogion y Cyngor yn ystod y broses adolygu i sicrhau bod ceisiadau am newid yn cael eu gwneud gan y rhai sy'n byw o fewn yr un ardal / gymuned y mae'r cais yn cael ei wneud ar ei chyfer.

Sicrhewch fod yr holl fanylion angenrheidiol yn cael eu hanfon i'r cyfrif e-bost canlynol i'w hystyried:

PembsCC20mph@pembrokeshire.gov.uk