Parcio am ddim yn dychwelyd cyn y Nadolig
Free Christmas parking returns
Bydd meysydd parcio trefi Sir Benfro unwaith eto'n rhad ac am ddim i fodurwyr ar y penwythnosau ym mis Rhagfyr.
Mae hyn yn cynnwys y cyfleuster newydd yng Nglan-yr-Afon yn Hwlffordd.
Bydd parcio am ddim ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Sadwrn 5 Rhagfyr, Dydd Sul 6 Rhagfyr,
Dydd Sadwrn 12 Rhagfyr, Dydd Sul 13 Rhagfyr,
Dydd Sadwrn, 19 Rhagfyr, Dydd Sul 20 Rhagfyr,
Dydd Sadwrn 26 Rhagfyr, Dydd Sul 27 Rhagfyr.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, yr Aelod Cabinet dros Gynllunio a Phriffyrdd: "Mae'r Cyngor yn falch o gynnig parcio am ddim ar y penwythnosau trwy gydol mis Rhagfyr, a gobeithiwn y bydd hynny'n annog siopwyr i gefnogi busnesau lleol pan fyddant yn siopa cyn y Nadolig."