Partneriaeth llyfrgell Arberth yn dathlu 10 mlynedd
Narberth’s library partnership celebrates 10 years
Mae'r bartneriaeth rhwng Gwasanaeth Llyfrgell Cyngor Sir Penfro, Cyfeillion Llyfrgell Arberth a Chyngor Tref Arberth wedi bodoli ers 10 mlynedd ac mae'n mynd o nerth i nerth.
I ddathlu'r gynghrair degawd o hyd, cynhaliwyd bore coffi ddydd Sadwrn, 25 Gorffennaf, tra roedd y dref yn llawn bwrlwm gyda phenllanw’r Wythnos Ddinesig a Charnifal Arberth, sydd bob amser yn boblogaidd.
Symudodd y llyfrgell i'w lleoliad presennol mewn adeilad newydd mwy o faint, sy’n fodern a hawdd ei gyrraedd, yn 2024 ac mae wedi bod yn denu cwsmeriaid lleol newydd, ac ymwelwyr â'r dref yn ogystal â’u defnyddwyr arferol.
Mae'r cyfleuster newydd yn fwy deniadol – yn olau, llachar, lliwgar a chroesawgar. Mae'n cynnwys adran iau gyda graffeg afaelgar, tri chyfrifiadur cyhoeddus i gael mynediad i'r Rhyngrwyd, a chyfleusterau argraffu/copïo, gwybodaeth leol/cymunedol a digon o lyfrau gwych i ddewis ohonynt.
Ers mis Gorffennaf 2016, mae Llyfrgell Arberth a'r gymuned leol wedi elwa o'r bartneriaeth lle mae Gwasanaeth Llyfrgelloedd y Cyngor yn darparu'r dodrefn, ffitiadau, offer TG, stoc a chwe awr o amser staff â thâl yr wythnos; tra bod Cyfeillion Llyfrgell Arberth yn darparu gwirfoddolwyr llyfrgell sy'n ei galluogi i aros ar agor am oriau hirach. Mae Cyngor y Dref yn talu costau’r adeilad gan gynnwys cynnal a chadw, cyfleustodau ac ardrethi.
Mae gan Gyngor y Dref hefyd eu Swyddfa Clercod yn y llyfrgell ac maent yn cynnal eu cyfarfodydd misol, ynghyd â chyfarfodydd Is-bwyllgor ar y safle.
Dywedodd Maer Arberth, y Cynghorydd Elizabeth Rogers: "Mae Cyngor Tref Arberth yn hynod falch o fod wedi chwarae ei ran wrth gynnal ein llyfrgell dros y deng mlynedd diwethaf. Mae'n llawer mwy na lle i fenthyg llyfrau: mae'n lle cymunedol croesawgar lle gall pobl o bob oed ddarllen, dysgu, cael gafael ar wybodaeth a chael cefnogaeth.
“Mae'r dengmlwyddiant hwn yn gyfle gwych i gydnabod ymroddiad Cyfeillion Llyfrgell Arberth a'r gwirfoddolwyr. Mae eu hymrwymiad rhyfeddol nhw wedi gwneud y bartneriaeth yn llwyddiant ysgubol. Gyda Chyngor Sir Penfro, edrychwn ymlaen at barhau i gefnogi a chryfhau'r gwasanaeth cymunedol amhrisiadwy hwn am flynyddoedd lawer i ddod."
Ychwanegodd y Cynghorydd Sir lleol Marc Tierney, sydd hefyd yn Gadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth: "Mae'r gymuned yn Arberth bob amser wedi bod yn gefnogol iawn i'w llyfrgell ac rydym yn diolch iddynt am eu hymateb i alwad am wirfoddolwyr a’r gwaith caled a’r ymrwymiad parhaus sydd wedi bod. Diolch hefyd i'n dau bartner arall a'r hyn rydyn ni i gyd wedi’i gyflawni gyda’n gilydd i gadw'r gwasanaeth gwerthfawr hwn i fynd.
“Rydym wedi cael tîm gwirfoddol cryf o'r dechrau sy'n ymrwymedig i'n gwasanaeth llyfrgell gyhoeddus er budd y gymuned leol, a heddiw mae cyfanswm o 16, chwech o'r rheiny wedi bod yn wirfoddolwyr o'r diwrnod cyntaf, cymaint yw eu hymrwymiad i'r rôl. Yn ystod blwyddyn ariannol 2025/26, darparodd gwirfoddolwyr 1,468 awr o oriau gwasanaeth rheng flaen.”
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr, y Cynghorydd Rhys Sinnett: "Mae'n bleser mawr dathlu pwysigrwydd llyfrgelloedd a darllen, ynghyd â llwyddiant a chryfder y bartneriaeth. Diolch yn fawr iawn i’r staff cyflogedig a’r gwirfoddolwyr am eu gwaith caled, a diolch i Gyngor y Dref am ei gyfraniad ariannol, wrth i ni edrych ymlaen at 10 mlynedd arall a thu hwnt.”
Cynhaliwyd y Bore Coffi ddydd Sadwrn 25 Gorffennaf, i ddathlu pen-blwydd y bartneriaeth gan edrych ymlaen at lawer mwy o flynyddoedd llwyddiannus yn y dyfodol.