English icon English
Transport check2

Partneriaeth yn canolbwyntio ar ddiogelwch trafnidiaeth ysgol

Partnership focus on school transport safety

Roedd swyddogion trwyddedu Cyngor Sir Penfro allan gyda swyddogion o Uned Trafnidiaeth Integredig yr Awdurdod Lleol unwaith eto'r wythnos hon yn gwirio diogelwch cerbydau.

Ymunodd swyddogion gorfodi yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) â'r ymgyrch ar y cyd i wirio tacsis a bysiau trwyddedig ar ôl iddynt ollwng dysgwyr yng Ngholeg Sir Benfro.

Arweiniodd y gwiriadau at wahardd pum trwydded cerbyd am beidio â bodloni safonau'r drwydded.

Llwyddodd pob cerbyd cludo teithwyr mwy, gan gynnwys bysiau, i gyd basio'r arolygiadau a gynhaliwyd gan y DVSA ac ni chofnodwyd unrhyw ddiffygion.

Mae hyn yn dilyn gweithred debyg ddiwedd mis Ionawr yn Ysgol Portfield lle bu Heddlu Dyfed-Powys yn cynorthwyo gyda gwiriadau trafnidiaeth ysgol.

Ar y bore hwnnw cafodd 26 o gerbydau eu gwirio, ac fe gafodd pedwar ohonynt eu hatal am dorri trwyddedau.

Pan fydd cerbyd wedi'i atal, mae'n rhaid unioni pob nam cyn codi'r ataliad, ac mewn llawer o achosion, gwneir hyn ar yr un diwrnod, gan sicrhau nad oes unrhyw darfu ar y dysgwyr.

Os canfyddir bod cynorthwyydd teithwyr yn teithio heb y bathodyn angenrheidiol, bydd sancsiynau yn cael eu cymryd yn erbyn y cwmnïau unigol dan sylw.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae sicrhau bod ein holl ddysgwyr yn cael eu cludo'n ddiogel yn hollbwysig ac un agwedd ar hynny yn unig yw’r gwaith partneriaeth hwn.

“Rwy'n falch y bydd ein swyddogion trwyddedu, ynghyd â'r rhai o'r DVSA a'r Heddlu, yn parhau â'r gwiriadau hyn yn rheolaidd ac yn rhoi sicrwydd i rieni bod eu plant yn cael eu diogelu.”

Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwynion am drafnidiaeth tacsi ysgol yn Sir Benfro cysylltwch â licensing@pembrokeshire.gov.uk