Pasys cyngor ar gael i ofalwyr di-dâl y Sir
Council passes available for County’s unpaid carers
Mae Cyngor Sir Penfro yn tynnu sylw at wasanaethau rhad ac am ddim y Cyngor sydd ar gael i ofalwyr di-dâl yn y sir sy'n cyflawni rôl amhrisiadwy yn gofalu am eu teuluoedd a'u ffrindiau.
Gofalwr yw rhywun sy'n gofalu am berthynas, ffrind neu gymydog sydd â chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol, anabledd neu ddibyniaeth ac a fyddai'n cael trafferth ymdopi heb eu cefnogaeth.
Bydd tri o bob pump o bobl yn dod yn ofalwyr yn ystod eu hoes ac yn Sir Benfro mae gan fwy na 10% o'r boblogaeth gyfrifoldebau gofalu.
I gydnabod cyfraniad gofalwyr di-dâl, a'u gwerth i'r Sir, mae pas parcio blynyddol am ddim ym Maenordy Scolton ar gael, ynghyd â diod boeth reolaidd am ddim ar bob ymweliad.
Mae aelodaeth chwe mis rhad ac am ddim hefyd yn eich Canolfan Hamdden Cyngor lleol ar gael drwy'r Cynllun Pasbort Gofalwyr i Hamdden. Mae hyn yn cynnwys sesiynau ystafell ffitrwydd, dosbarthiadau ffitrwydd, nofio cyhoeddus, archwiliadau iechyd, rhaglenni ymarfer corff a mynediad i'r ystafell iechyd.
I fanteisio ar y rhain, mae angen i ofalwyr di-dâl gofrestru i gael cerdyn cydnabod.
Gall Gofalwyr Ifanc gofrestru am Gerdyn Cydnabod Gofalwyr drwy Wasanaeth Gofalwyr Ifanc Gweithredu dros Blant, ffôn 01437 761330
Gall Gofalwyr sy'n Oedolion gofrestru drwy Wasanaeth Gwybodaeth a Chefnogaeth Gofalwyr Sir Benfro, ffôn 01437 611002 neu e-bostio PCISS@adferiad.org
Unwaith y bydd gennych chi un o'r cardiau hyn gallwch wneud cais am bas am ddim yn Siop Gorsaf Maenordy Scolton ac, os ydych chi dros 13 mlwydd oed, gallwch wneud cais am y Pasbort i Hamdden drwy e-bostio llun o'ch cerdyn i leisureadmin@pembrokeshire.gov.uk neu ymweld â'ch canolfan leol.
Dywedodd yr Hyrwyddwr Gofalwyr, y Cynghorydd Mike James: “Mae gofalwyr yn gweithio mor galed i ofalu am aelodau o'r teulu, ffrindiau neu gymdogion ac mae Cyngor Sir Penfro yn cydnabod y rôl hanfodol sydd ganddyn nhw ym mywydau pobl.
“Heb yr arwyr tawel hyn ni fyddai llawer o bobl yn gallu parhau i fyw bywydau llawn yn eu cartrefi eu hunain, ac mae'n bwysig deall y gwerth sydd gan ofalwyr, sy'n gwneud yr hyn maen nhw'n ei wneud allan o gariad ac ystyriaeth, mewn cymdeithas.
“Mae'r pasys hyn yn arwydd bach o werthfawrogiad a byddwn yn annog gofalwyr i fanteisio arnynt pan allant.”