
Paul Lucas yn derbyn Medal yr Ymerodraeth Brydeinig am ei wasanaeth i addysg ac elusennau
Paul Lucas receives British Empire Medal for services to education and charity
Mae un o'r grymoedd y tu ôl i greu Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd wedi ei anrhydeddu â Medal yr Ymerodraeth Brydeinig.
Derbyniodd Mr Paul Lucas ei fedal gan Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards, mewn seremoni arbennig yn Neuadd y Sir, Hwlffordd, ddydd Llun, 20 Ionawr.
Cafodd Mr Lucas ei enwi yn Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am wasanaethau i addysg ac elusennau yn Sir Benfro.
Mr Lucas oedd Cadeirydd y Llywodraethwyr yn Ysgol Uwchradd WRh Hwlffordd ar adeg ei hagoriad swyddogol gan Ei Huchelder Brenhinol, Y Dywysoges Frenhinol yn 2022.
Goruchwyliodd Mr Lucas y broses o gyfuno hen ysgolion Syr Thomas Picton a Tasker Milward gan greu Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac adeiladu'r ysgol newydd wych ar hen safle Ysgol Syr Thomas Picton.
Wrth gynnal y digwyddiad, nododd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Steve Alderman, y bydd miloedd lawer o fyfyrwyr am ddegawdau i ddod yn mwynhau cyfleusterau addysgol o'r radd flaenaf yn yr ysgol newydd, diolch i ymroddiad Mr Lucas.
Dywedodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards: "Ar ran Ei Fawrhydi Y Brenin, roedd yn anrhydedd ac yn fraint enfawr i gyflwyno Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i Mr Paul Lucas.
“Mae Mr Lucas wedi darparu gwasanaeth anhygoel i Sir Benfro a Hwlffordd yn benodol ac mae wedi bod yn ysgogwr brwd ar gyfer gwella addysgol. Bydd gan ei waith etifeddiaeth barhaol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Yn cynorthwyo'r Arglwydd Raglaw yn y seremoni oedd Rhingyll Cadetiaid yr Arglwydd Raglaw, Mariana Lemon.
Hefyd yn bresennol yn yr achlysur arbennig oedd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey; Uchel Siryf Dyfed, Helen Jones, a Dirprwy Raglaw Dyfed, Cyrnol Martin Green, ynghyd â theulu Mr Lucas a gwahoddedigion.