Gareg-Las-CYM1

Pedwar diwrnod i fynd tan Eisteddfod y Garreg Las

Four days to go until Eisteddfod y Garreg Las

Rhannu:

Dim ond pedwar diwrnod sydd ar ôl tan Eisteddfod y Garreg Las.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng ngogledd y sir rhwng 1 Awst a 8 Awst, ac mae dalgylch eleni hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Mae Cyngor Sir Penfro yn edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr i'w Pentre sy'n dathlu pobl, cymunedau a diwylliant rhanbarth ehangach yr Eisteddfod ar draws y dair sir, gan roi llwyfan i straeon ac i unigolion sydd wedi gwneud cyfraniad arbennig at lwyddiant yr Eisteddfod.

Mae cymunedau lleol wedi bod yn brysur yn addurno’r ardal i groesawu’r ŵyl, ac mae gwaith adeiladu’r Maes yn brysur fynd rhagdd, yn barod am dathliad wyth diwrnod o’r Gymraeg a chreadigrwydd a diwylliant Cymru yn Llantwd.

Cynhelir yr Eisteddfod Genedlaethol eleni yng ngogledd y sir rhwng 1 Awst a 8 Awst, ac mae dalgylch eleni hefyd yn cynnwys cymunedau yn ne Ceredigion a gorllewin Sir Gaerfyrddin.

Mae ap yr Eisteddfod Genedlaethol bellach yn fyw, yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau a gynhelir ar draws y Maes bob dydd, gan gynnwys amserlen lawn ar gyfer Pentre’r Garreg Las.

Eleni mae 850 mlynedd ers cynnal yr Eisteddfod gyntaf ychydig filltiroedd o’r safle yng Nghastell Aberteifi, ac mae’r ŵyl boblogaidd hon yn dod â pherfformwyr, awduron, artistiaid, corau, cystadleuwyr ac ymwelwyr o bob cwr o Gymru ynghyd am wythnos o gystadlaethau, cyngherddau ac arddangosfeydd.

Am ragor o wybodaeth am yr ŵyl, gweler 2026 | Eisteddfod