Alannah Heasman

Llysgennad o Sir Benfro yn ymuno â'r panel sy'n ysgogi chwaraeon ledled Cymru

Pembrokeshire Ambassador joins panel driving sport across Wales

Rhannu:

Mae Llysgennad Ifanc Chwaraeon Sir Benfro wedi sicrhau lle ar banel mawreddog sy'n dylanwadu ar chwaraeon i bobl ifanc ledled Cymru.

Mae Alannah Heasman wedi cael ei dewis fel rhan o banel llywio cenedlaethol Llysgenhadon Ifanc Chwaraeon Cymru.

Bydd yn rhoi llais ar faterion sy'n effeithio ar bobl ifanc ac yn eu cynnwys wrth wneud penderfyniadau a dylunio a chyflawni gweithgareddau

Mae Alannah wedi bod yn Llysgennad Ifanc yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd ers Blwyddyn 8 ac wedi cwblhau hyfforddiant DRIVE, Llysgennad Ifanc Arian ac Aur.

Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro fod Alannah wedi bod yn fodel rôl rhagorol mewn lleoliadau ysgol a chymunedol ac yn cynorthwyo gyda chlybiau, siarad â myfyrwyr iau am ei thaith llysgennad ei hun a helpu gyda gwyliau, twrnameintiau, sesiynau aml-chwaraeon a darpariaeth gwyliau ysgol.

Ychwanegodd Dan: "Rydyn ni yn Chwaraeon Sir Benfro yn falch iawn o Alannah. Mae hi wedi bod yn Llysgennad Ifanc rhagorol ac yn fodel rôl yn Ysgol Uwchradd Hwlffordd ac yn y gymuned ehangach ac nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd hi'n ychwanegiad gwych i'r grŵp llywio cenedlaethol eleni."

Dywedodd Alannah, sydd bellach yng Ngholeg Sir Benfro: "Rwy'n llawn cyffro fy mod wedi cael fy mhenodi i banel llywio y Llysgenhadon Ifanc a galla’ i ddim aros am y cyfarfod cyntaf ac i gymryd rhan".