Cyngor Sir Penfro yn darparu cartrefi fforddiadwy yn Rose Haven Gardens, Rosemarket
Pembrokeshire County Council delivers affordable homes at Rose Haven Gardens, Rosemarket
Mae Cyngor Sir Penfro wedi nodi cwblhau 11 o gartrefi newydd yn natblygiad Rose Haven Gardens, gan ddarparu cymysgedd o gartrefi dwy a thair ystafell wely i gefnogi teuluoedd lleol i gael cartref fforddiadwy o ansawdd uchel.
Mae Rose Haven Gardens yn darparu tai cymdeithasol a chartrefi rhent canolradd, gan helpu i ddiwallu anghenion tai lleol a chefnogi preswylwyr nad ydynt yn gallu cael llety ar y farchnad agored.
Un o brif nodweddion y datblygiad yw defnyddio dull gosod lleol sy'n sicrhau bod blaenoriaeth yn cael ei roi i bobl sydd â chysylltiadau cryf â'r ardal. Mae hyn yn helpu trigolion lleol i aros yn eu cymunedau ac yn galluogi'r rhai sydd â chysylltiadau â'r ardal i ddychwelyd.
Mae'r cartrefi newydd yn rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy ledled Sir Benfro. Mae'r datblygiad yn cyfrannu at fynd i'r afael â'r argyfwng tai ac yn sicrhau bod pobl yn gallu cael cartref diogel ac addas yn eu cymunedau eu hunain, gan gynnwys mewn ardaloedd gwledig lle mae cyfleoedd tai yn aml yn brin.
Mae’r cartrefi wedi’u cynllunio i gynnig modd o fyw cyfoes gan ymgorffori nodweddion ynni effeithlon sydd yn lleihau eu heffaith ar yr amgylchedd ac hefyd yn helpu i leihau costau ynni yr aelwyd, gan gefnogi fforddiadwyedd hirdymor i breswylwyr.
Mae Rose Haven Gardens yn rhan o raglen ehangach Cyngor Sir Penfro i fynd i'r afael ag anghenion tai, cryfhau cymunedau lleol, a darparu cartrefi o ansawdd uchel ledled y sir. Trwy gynyddu nifer y tai fforddiadwy sydd ar gael, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, a blaenoriaethu gosodiadau lleol, mae'r Cyngor yn helpu i gefnogi a chynnal cymunedau ffyniannus ar gyfer y dyfodol.
Rhannodd un tenant eu profiad o symud i'w cartref newydd:
“Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi cael y cyfle i gael un o'r tai newydd yn gartref i ni. Mae'r broses gyfan wedi bod yn ddi-straen diolch i gefnogaeth y Cyngor. Rydym yn edrych ymlaen at greu atgofion yma, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb i'r Cyngor fuddsoddi mewn tai ar gyfer pobl mewn angen.”
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Dai: "Rwy'n falch iawn o weld y cartrefi fforddiadwy newydd hyn yn cael eu cwblhau yn Rose Haven Gardens. Mae gallu cael cartref cadarn, diogel a fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer lles ein cymunedau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle gall cyfleoedd tai fod yn brin.
“Bydd y dull gosod lleol yn helpu i sicrhau bod pobl leol yn gallu aros yn y cymunedau maen nhw'n eu galw'n gartref neu ddychwelyd iddynt. Mae'r datblygiad hwn yn enghraifft gadarnhaol o ymrwymiad y Cyngor i ddiwallu anghenion tai a chefnogi teuluoedd ledled Sir Benfro.”
Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o'r cartrefi fod â chais cyfredol am gartref ar waith.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid: devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu edrychwch ar y dudalen Facebook ar gyfer Tai: Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro | Facebook