Eisteddfod champs

Cyngor Sir Penfro yn dweud ‘Diolch’

Pembrokeshire County Council says ‘Diolch’

Rhannu:

Mae pobl leol eithriadol a aeth yr ail filltir i groesawu'r Eisteddfod Genedlaethol i'r ardal wedi cael eu cydnabod mewn seremoni arbennig.

Agorodd Pentre'r Garreg Las ddydd Sadwrn drwy ddathlu hyrwyddwyr cymunedol, a chanmol gwirfoddolwyr o bob cwr o'r tair sir a weithiodd yn ddiflino dros eu pwyllgorau codi arian lleol.

Dywedodd Cadeirydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Delme Harries: “Ar draws rhanbarth y Garreg Las, mae gwirfoddolwyr wedi treulio nosweithiau a phenwythnosau di-ri yn trefnu digwyddiadau, yn ennyn cefnogaeth, yn codi arian ac yn dod â'u cymunedau at ei gilydd.

“Maen nhw wedi gwneud hynny'n dawel bach, yn aml heb geisio cydnabyddiaeth, am eu bod nhw'n credu mewn dod â'r Eisteddfod Genedlaethol i'n hardal ni.

“Mae eu hymdrechion wedi bod yn eithriadol.”

Cododd pwyllgorau lleol fwy na £528,000 dros y blynyddoedd diwethaf i sicrhau y gellid croesawu'r ŵyl i'r ardal, y swm mwyaf erioed i gael ei godi gan gronfa leol ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol.

Gobeithir y bydd grwpiau lleol yn parhau i ymgysylltu ac i hyrwyddo ysbryd cymunedol ar ôl yr eisteddfod.

Ychwanegodd y Cynghorydd Harries: “Rydym hefyd yn gobeithio y bydd yr hyn a grëwyd drwy'r ymgyrch hon yn gadael gwaddol parhaol.

“Gobeithiwn y bydd y cyfeillgarwch a ffurfiwyd, yr ysbryd cymunedol a gryfhawyd a'r partneriaethau a adeiladwyd dros y blynyddoedd diwethaf yn parhau ymhell ar ôl i'r llen olaf ddisgyn ar yr eisteddfod eleni.”

Mae Pentre'r Garreg Las, ardal Cyngor Sir Penfro a’i bartneriaid ar faes yr eisteddfod, yn arddangos ac yn dathlu'r sir, gyda rhaglen lawn o sgyrsiau, perfformiadau ac arddangosiadau drwy gydol yr wythnos.