Martin Cavaney

Canmol staff Cyngor Sir Penfro am eu hymateb i’r lifogydd dros nos

Pembrokeshire County Council staff praised for overnight flood response

Rhannu:

Mae staff Cyngor Sir Penfro wedi cael canmol am eu hymroddiad a'u gwaith caled drwy gydol y nos yn dilyn cyfnod o law dwys a arweiniodd at lifogydd eang ar draws y Sir.

Rhoddodd glaw trwm am gyfnod hir, ynghyd â dŵr wyneb sylweddol, dŵr ffo o gaeau dirlawn, malurion o ddŵr ffo ar dir a llanw uchel iawn, bwysau enfawr ar y systemau dŵr storm o nos Fawrth, 4 Tachwedd tan yn gynnar fore Mercher, 5 Tachwedd.

Er gwaethaf cynnal a chadw rheolaidd a chlirio draeniau a’r gylïau yn dymhorol, roedd y swmp enfawr o falurion, mwd a cherrig a olchwyd i lawr yn ystod y llifogydd yn ormod iddynt allu ymdopi â nhw.

Gweithiodd timau'r cyngor yn ddiflino dros nos ac i'r oriau mân, gan ymateb i nifer o ddigwyddiadau llifogydd, gan gynnal diogelwch priffyrdd, cau ffyrdd lle’r oedd angen, clirio malurion, a chefnogi cydweithwyr y gwasanaeth brys.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: "Rwyf am dalu teyrnged i'n holl staff, asiantaethau partner, a'n gwasanaethau brys am eu hymdrechion eithriadol mewn amodau hynod heriol ddoe a dros nos.

“Er gwaethaf ein hymdrechion parhaus i gynnal a chlirio systemau draenio, creodd y cyfuniad o law di-baid, llanw uchel, a dŵr ffo o gaeau amodau a oedd yn fwy na gallu ein seilwaith i'w rheoli. Roedd swmp y mwd, cerrig, a malurion eraill yn ormod i lawer o’r gylïau a’r draeniau.

“Er bod disgwyl i'r amodau wella trwy gydol heddiw, rydym yn annog trigolion i aros yn wyliadwrus, cydymffurfio ag arwyddion cau ffyrdd, ac osgoi gyrru trwy ddŵr llifogydd.”

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, dilynwch Gyngor Sir Penfro ar y cyfryngau cymdeithasol.

 

Nodiadau i olygyddion

Llun:

Llifogydd yn Noc Penfro nos Fawrth 4 Tachwedd. LLUN: Martin Cavaney.