English icon English
county hall river

Datganiad Cyngor Sir Penfro: Safle Tirlenwi Llwynhelyg

Pembrokeshire County Council statement: Withyhedge Landfill site

Gall Cyngor Sir Penfro gadarnhau ein bod wedi derbyn cwynion yn ddiweddar gan aelodau o'r cyhoedd yn ymwneud ag arogleuon sy'n tarddu o Dirlenwi Llwynhelyg.

Mae swyddogion o'n timau Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd wedi ymweld â'r cyfleuster yr wythnos hon ochr yn ochr â swyddogion Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC).

Mae'r safle'n dal trwydded a roddwyd gan CNC ac anogir aelodau'r cyhoedd i roi gwybod am unrhyw faterion gydag arogl iddynt.

Fodd bynnag, bydd swyddogion o'n Tîm Diogelu'r Cyhoedd yn mynd ati i gefnogi cydweithwyr yn CNC drwy fonitro dihangfa aroglau o'r safle mewn ardaloedd preswyl cyfagos.

Er mai CNC yw'r rheoleiddiwr safle, y Cyngor yw'r corff sy'n gyfrifol am ystyried a yw arogl yn niwsans statudol o dan Ddeddf Diogelu'r Amgylchedd 1990 a bydd ein monitro'n parhau ar y sail hon.

Mae'r gweithredwr wedi cadarnhau bod cynllun rheoli wedi'i roi ar waith a bod camau yn cael eu cymryd ar y safle i liniaru'r sefyllfa a lleihau'r effaith ar ardaloedd cyfagos.

Am ragor o wybodaeth, gweler y datganiad a gyhoeddwyd yn flaenorol gan Cyfoeth Naturiol Cymru.