Cwmni teuluol o Sir Benfro yn ennill Gwobr y Brenin am Fenter
Pembrokeshire family company wins King’s Award for Enterprise
Mae busnes teuluol o Sir Benfro sydd bellach yn helpu cwsmeriaid yn fyd-eang wedi ennill anrhydedd busnes uchaf ei pharch y DU, Gwobr y Brenin am Fenter.
Mae FRIO UK yn cynhyrchu’r waled oeri inswlin a meddyginiaeth gyntaf yn y byd i gael patent.
Gan ddefnyddio crisialau a ddatblygir yn arbennig sy'n cael eu hactifadu pan fyddant yn wlyb, mae'r waledi yn cadw meddyginiaeth yn oer beth bynnag fo'r tywydd drwy ddefnyddio’r broses anweddu.
Cyflwynodd Arglwydd Raglaw Ei Fawrhydi yn Nyfed, Miss Sara Edwards, y wobr yn safle'r cwmni yn Nhrefgarn Fach ddydd Mawrth, 12 Tachwedd mewn digwyddiad lle’r oedd staff FRIO, gwesteion gwadd a chydweithwyr busnes yn bresennol.
Mr Chris Wolsey, Rheolwr Gyfarwyddwr FRIO UK dderbyniodd y wobr.
Dywedodd yr Arglwydd Raglaw: "Roedd yn gymaint o anrhydedd cael cyflwyno Gwobr y Brenin i Mr Wolsey a'i dîm am Fenter mewn Masnach Ryngwladol ar ran Ei Fawrhydi Y Brenin.
“Roedd yn ddiddorol clywed sut mae'r cwmni wedi esblygu ac erbyn hyn mae'n allforio i fwy na 70 o wledydd yn fyd-eang.
“O siarad â'r staff gallwch weld ymdeimlad gwirioneddol o falchder yn y cynhyrchion maen nhw'n eu creu o wybod eu bod nhw'n gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau cwsmeriaid.
“Rwy'n dymuno'r gorau i Chris a FRIO UK ar gyfer y dyfodol ac rwy'n siŵr y bydd Gwobr y Brenin am Fenter yn cynorthwyo eu datblygiad ymhellach ac yn sicrhau bod hyd yn oed mwy o bobl yn cael eu helpu ledled y byd."
Dywedodd Mr Wolsey: "Roedd yn bleser bod yr Arglwydd Raglaw yn bresennol i gyflwyno'r wobr i mi, mae'n ymroddedig i fy mam a fy nhad am eu gwaith caled a'u meddylfryd entrepreneuraidd. Mae hefyd yn ymroddedig i fy nheulu, pawb sy'n gweithio yn FRIO UK a hefyd y rhai rydym yn gweithio'n agos â nhw ledled y byd.
“Rwy'n falch o fod yn ddyn o Sir Benfro ac mae FRIO UK yn fusnes yn Sir Benfro, yn cyflogi pobl leol ac wedi'i leoli wrth wraidd y sir.
“Mae derbyn yr anrhydedd uchaf y gellir ei roi i fusnes yn y DU yn foment falch iawn i ni i gyd a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi bod yn rhan o’r llwyddiant hwn.”
Cynorthwywyd yr Arglwydd Raglaw gan Gadét yr Arglwydd Raglaw, Laura Edwards, ac roedd Uchel Siryf Dyfed, Helen Jones hefyd yn bresennol yn y seremoni gyflwyno.
Y Cynghorydd Steve Alderman, Cadeirydd Cyngor Sir Penfro a gynhaliodd y cyflwyniadau.
Mae Gwobr y Brenin am Fenter yn cwmpasu pedwar categori, Arloesi, Datblygu Cynaliadwy, Hyrwyddo Cyfle a Masnach Ryngwladol.
Roedd FRIO UK yn un o ddim ond 11 o gwmnïau o Gymru a dderbyniodd y Wobr yn 2024.
Nodiadau i olygyddion
Nodiadau i’r Golygydd:
Sefydlwyd FRIO UK Ltd ym 1996 gan y diweddar Garnet ac Althea Wolsey, a ysbrydolwyd gan eu merch Helen, Pencampwraig Codi Pŵer Prydain. Cododd y syniad am eu cynhyrchion oeri, bandiau pen, gwddf a garddwrn i ddechrau, ar ôl i Helen wynebu gwres eithafol yn ystod Pencampwriaeth Codi Pŵer y Byd 1991 yn India. Datblygodd y teulu'r bandiau oeri hyn, a ddefnyddiwyd gan dimau Olympaidd a Pharalympaidd Prydain yn Atlanta ym 1996.
Yn ddiweddarach, ar ôl sgwrs am gadw inswlin yn oer, crëwyd y waled oeri FRIO gyntaf. Tyfodd y cwmni o fod yn weithrediad cartref i fod yn frand byd-eang. Heddiw, mae FRIO yn cael ei reoli gan Chris Wolsey, mab ieuengaf Garnet ag Althea. Mae'r cwmni wedi ehangu ei gyfleusterau cynhyrchu ac yn cyflogi 15 o bobl yn ei bencadlys yn Sir Benfro, gyda staff ychwanegol ledled y byd."