English icon English
Tenby North Blue Flag - Baner Glas Gogledd Dinbych-y-pysgod

Chwifio'r faner ar draethau gwych Sir Benfro

Pembrokeshire flies the flag for brilliant beaches

Mae Sir Benfro unwaith eto wedi cadarnhau ei statws fel cartref i rai o'r traethau gorau yng Nghymru wedi blwyddyn lwyddiannus arall o wobrau.

Mae 17 o draethau Sir Benfro wedi ennill naill ai Gwobr Baner Las neu Wobr Arfordir Glas yng Ngwobrau Arfordir Cymru 2024.

Y traethau fydd yn chwifio'r Faner Las yn falch yn 2024 yw: Traeth y Gogledd Dinbych-y-pysgod, Traeth y De Dinbych-y-pysgod, Traeth y Castell Dinbych-y-pysgod, Niwgwl, Saundersfoot, Dale, Porth Mawr, Coppet Hall, Traeth Poppit a gogledd Aberllydan.

Mae’r Wobr Faner Las yn cael ei chydnabod ledled y byd fel symbol o ansawdd.

Enillodd saith o draethau sirol eraill hefyd Wobrau Arfordir Glas.

Mae Gwobrau Arfordir Glas yn cydnabod 'trysorau cudd' yr arfordir sydd hefyd ag ansawdd dŵr ardderchog ond heb gymaint o seilwaith â chyrchfannau glan môr traddodiadol.

Aeth Gwobrau Arfordir Glas i Abereiddi, Dwyrain Freshwater, Maenorbŷr, Penalun, Caerfai, Druidston a Bae Gorllewin Angle.

Dywedodd Rheolwr Gwasanaethau Hamdden Cyngor Sir Penfro, Gary Nicholas: "Rydym yn hynod falch ein bod wedi cyrraedd y nod eto eleni gyda 17 o'n traethau gwych unwaith eto yn cael eu cydnabod yng Ngwobrau Arfordir Cymru.

"Nid yw hyn yn digwydd ar ddamwain, mae'n tanlinellu'r ymdrechion drwy gydol y flwyddyn i gynnal ein traethau a chadw arfordir Sir Benfro yn lle gwych i fyw ac ymweld ag ef."

Dywedodd Owen Derbyshire, Prif Weithredwr Cadwch Gymru'n Daclus: "Rydym yn falch iawn o weld blwyddyn lwyddiannus arall o Wobrau'r Arfordir yma yng Nghymru, gyda 49 o leoliadau trawiadol yn cael eu cydnabod ymhlith goreuon y byd.

"Mae cyflawni'r gwobrau mawreddog hyn yn golygu bodloni safonau trylwyr a roddwyd ar waith i sicrhau mwynhad diogel ymwelwyr nawr ac yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r llwyddiant hwn yn dyst i waith caled pawb sy'n ymwneud â chynnal a gwella harddwch naturiol ein harfordir yng Nghymru."

Nodiadau i olygyddion

Yn chwifio'r Faner Las yn falch ar Draeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod, mae Swyddog Traethau Cyngor Sir Penfro, Myrddin Dennis, gydag Achubwyr Bywyd yr RNLI Oliver Davies-Scourfield, Archie North a Harry Davies.