Foster Wales - library image  - Delwedd llyfrgell Foster Cymru - Sir Benfro

Gofalwyr maeth Sir Benfro yn rhannu eiliadau pwerus sy’n ‘torri tir newydd’ fel rhan o Bythefnos Gofal Maeth

Pembrokeshire foster carers share powerful ‘breakthrough’ moments as part of Foster Care Fortnight

Rhannu:

Y tro cyntaf i blentyn chwerthin, siarad yn agored am ei ddiwrnod, gofyn am wylio ffilm; mae’r rhain yn eiliadau y gall llawer eu cymryd yn ganiataol, ond i ofalwyr maeth yng Nghymru, maent yn symboleiddio un peth, sef datblygiad.

Mae plant sydd wedi ymdrin â thrawma yn aml yn datblygu ffyrdd o warchod eu hunain. Gall hyn gynnwys ymddygiad fel pryder, cau emosiynol, ymatebion dwys, neu anhawster dilyn rheolau.

Canfu arolwg cenedlaethol a gomisiynwyd gan Maethu Cymru fod tua 80% o ofalwyr a holwyd wedi cynnal plant a oedd yn arddangos ymddygiad fel hyn. Er y gall yr heriau hyn fod yn anodd, dywedodd hanner y gofalwyr maeth a holwyd eu bod hefyd wedi sylwi ar ddatblygiad arwyddocaol o fewn y chwe mis cyntaf.

Dywedodd gofalwyr maeth fod yr eiliadau hyn sy’n torri tir newydd yn aml yn canolbwyntio ar eiliadau bach o gysylltiad, ond maent yn cynrychioli mwy na hynny: i blant mewn gofal, mae’n golygu eu bod wedi gwneud cynnydd, eu bod wedi dechrau teimlo’n ddiogel, eu bod wedi dechrau gwella, eu bod yn teimlo eu bod yn cael eu caru, a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn dilyn trawma plentyndod.

Ar ôl profiad, cymorth ac arweiniad proffesiynol, dywedodd bron pob gofalwr (93%) eu bod bellach yn hyderus yn ymateb i ymddygiad sy’n gysylltiedig â thrawma.

Rhannodd Lynda, gofalwr maeth o Sir Benfro, sydd wedi bod yn maethu ers ychydig dros flwyddyn, ei phrofiadau fel rhan o’r arolwg.

Dywedodd hi: “Ar y dechrau, roeddwn i’n cael trafferth gyda fy hyder. Roedd y plentyn yn gwthio ffiniau yn gyson, yn ymladd yn erbyn pob opsiwn, ac yn aml nid oedd yn byw mewn realiti. Roedd hi’n anodd gwybod a oedd yr hyn roeddwn i’n ei wneud yn gwneud unrhyw wahaniaeth o gwbl.

“Trwy fy ngweithredoedd, roeddwn yn dangos yn glir waeth beth fyddai’n digwydd, y byddwn i yno iddi hi bob amser. Roeddwn i’n canmol ymddygiad cadarnhaol, yn gosod ffiniau clir ac yn glynu wrthyn nhw, gan egluro bob amser pam roedd y ffiniau hynny yno, yn enwedig o ran diogelwch. Dysgais aros nes bod y ddwy ohonom wedi ymdawelu cyn trafod pethau.

“Y foment a ddangosodd i mi fod pethau’n dechrau newid mewn gwirionedd oedd pan rannodd hi ei thrawma am ei gorffennol, a’r trawma yr oedd wedi bod drwyddo gyda mi. Fe wnaethon ni grio gyda’n gilydd a chofleidio. Dyna oedd y foment y gwyddwn ei bod hi’n teimlo’n ddigon diogel i ymddiried ynof fi.

“Pan fyddwch chi’n sylweddoli eich bod chi wedi gwneud y cysylltiad hwnnw, dyna’r teimlad gorau yn y byd. Mae pob plentyn eisiau teimlo ei fod yn cael ei garu a’i fod yn ddiogel, ac unwaith y bydd hynny’n dechrau digwydd, mae’r gwobrwyon yn enfawr.”

Rhyddhawyd canfyddiadau’r arolwg cyn Pythefnos Gofal Maeth, ymgyrch flynyddol fwyaf y DU i godi ymwybyddiaeth o faethu, sy’n digwydd bob mis Mai. Mae thema eleni, Dyma yw Maethu, yn taflu goleuni ar brofiadau go iawn gofalwyr maeth, a’r rôl hanfodol maen nhw’n ei chwarae wrth helpu plant i deimlo’n ddiogel.

Mewn ymateb i’r arolwg, dywedodd Pennaeth Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Penfro, Chris Frey-Davies: “Mae gofalwyr maeth ledled Sir Benfro yn darparu sefydlogrwydd, gofal a dealltwriaeth i blant sydd yn aml wedi ymdrin ag amgylchiadau anodd a thrawmatig.

“Mae’r arolwg hwn yn tynnu sylw at bwysigrwydd cefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad lleol wrth helpu gofalwyr i ymateb yn hyderus i anghenion plant dros amser. Mae’r eiliadau hyn a ddisgrifir gan ofalwyr fel rhai sy’n torri tir newydd, er eu bod yn aml yn fach, yn dangos bod plant yn dechrau teimlo’n ddiogel a’u bod yn cael eu cefnogi.

“Yn Maethu Cymru Sir Benfro, rydym yn parhau i fod wedi ymrwymo i gefnogi ein gofalwyr maeth drwy gydol eu taith maethu, gan sicrhau bod ganddynt fynediad at y cymorth y mae ei angen arnynt i wneud gwahaniaeth parhaol.”

I gael gwybod mwy am ddod yn ofalwr maeth yng Nghymru, ewch i fosterwales.llyw.cymru.

Y Pythefnos Gofal Maeth hwn, gallwch gwrdd â’ch tîm Maethu Cymru lleol yn:

11 Mai, 11yb-5yp, Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod;

12 Mai, 10.30yb-1yp, Canolfan Hamdden Hwlffordd;

12 Mai, 3yp-4.30yp, Llyfrgell Hwlffordd;

14 Mai, 10yb-1yp, Llyfrgell Aberdaugleddau;

14 Mai, 3yp-6yp, Canolfan Hamdden Aberdaugleddau;

18 Mai, 11yb-5yp, Canolfan Hamdden Dinbych y Pysgod;

21 Mai, 10.30yb-2yp, Canolfan Hamdden Hwlffordd;

 24 Mai, 11yb-7yp, Hwyl yn y Parc, Parc coffa Doc Penfro.

Nodiadau i olygyddion

Am ragor o wybodaeth neu geisiadau am gyfweliad, cysylltwch â:

Yng Nghymru, mae 7,200 o blant mewn gofal. O'r rhain, mae 4,884 yn byw gyda theuluoedd maeth — gyda chefnogaeth 3,538 o ofalwyr maeth (Maethu Cymru).

Ynglŷn â Maethu Cymru

Maethu Cymru yw'r rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol dielw yng Nghymru.

Ynglŷn â’r Pythefnos Gofal Maeth

  • Ymgyrch ymwybyddiaeth flynyddol The Fostering Network yw Pythefnos Gofal Maeth™
  • Dyddiadau 2026: 11–24 Mai
  • Thema: Dyma yw Maethu
  • #FCF26 #PythefnosGofalMaeth